Darpariaethau trosiannol
9.—(1) Bydd unrhyw beth a wneir gan y corff llywodraethu fel awdurdod derbyn cyn y dyddiad gweithredu o dan unrhyw ddarpariaeth ym mhennod I o Ran III o'r Ddeddf (trefniadau derbyn) yn cael effaith o'r dyddiad gweithredu fel pe bai wedi'i wneud gan yr awdurdod addysg lleol.
(2) Os digwydd, ar y dyddiad gweithredu, fod cynigion a gyhoeddwyd gan y corff llywodraethu o dan adran 28, 29 neu 31 o'r Ddeddf i'w gweithredu o dan baragraff 10 o Atodlen 6 i'r Ddeddf, byddant yn cael eu gweithredu gan yr awdurdod addysg lleol.