ATODLEN 1LLWYBR Y BRIF GEFNFFORDD NEWYDD

Dyma lwybr y brif gefnffordd newydd, sef llwybr a leolir rhwng y Fenni a Hirwaun yn Sir a Bwrdeistrefi Sirol Mynwy, Blaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf: mae'r llwybr yn rhyw 40.6 cilomedr o hyd ac yn cychwyn o bwynt ar y Gefnffordd (a nodir ag “A” ar y plan adneuedig ar brif blan Rhif 1), ryw 40 metr i'r gorllewin o ganolbwynt Cylchfan Hardwick yn y Fenni ac yn mynd tua'r de-orllewin hyd at bwynt ar y Gefnffordd (a nodir “B” ar y plan adneuedig ar brif blan Rhif 2), ryw 800 metr i'r gogledd-orllewin yn gyffredinol hyd at bwynt ar y Gefnffordd (a nodir “B” ar y plan adneuedig ar brif blan Rhif 2), ryw 800 metr i'r gogledd-orllewin o ganolbwynt Cylchfan y Rhigos ger Pyllau Hirwaun.