Gorchymyn Cefnffordd Castell-Nedd — Y Fenni (A465) (Deuoli o'r Fenni i Hirwaun a'r Ffyrdd Ymuno ac Ymadael) a Ffordd Man i'r Dwyrain o Abercynon — Man i'r Dwyrain o Ddowlais (A4060), Cefnffordd Caerdydd — Glanconwy (A470) (Ffyrdd Cysylltu) 1999

5.  Llwybr sy'n rhyw 0.1 cilomedr o hyd sy'n cychwyn o bwynt ar ochr ddeheuol y Ffordd Fawr, Saleyard, 220 metr i'r gogledd-ddwyrain o'i chyffordd â Ffordd yr Eglwys ac yn rhedeg tua'r de-ddwyrain yn gyffredinol i gwrdd â lôn gerbydau'r brif gefnffordd newydd tua'r dwyrain i'r gorllewin o Saleyard, (rhoddir y cyfeirnod 10 i'r gefnffordd newydd ar hyd y llwybr hwn ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 2).