- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
6.—(1) Mae'r Rheoliad hwn yn darparu ar gyfer cynnwys yn y trefniadau derbyn cychwynnol ar gyfer ysgol a fydd yn ysgol sefydledig neu'n ysgol wirfoddol a gynorthwyir â chymeriad crefyddol iddi drefniadau ynglŷn â derbyn disgyblion i'r ysgol er mwyn diogelu cymeriad crefyddol yr ysgol (“trefniadau arbennig”).
(2) Pan gytunir ar unrhyw drefniadau arbennig a ddymunir gan yr awdurdod derbyn dros ysgol o'r fath gan yr awdurdod addysg lleol —
(a)caiff yr awdurdod derbyn eu hymgorffori yn y trefniadau derbyn cychwynnol arfaethedig sy'n ddarostyngedig i ymgynghoriad o dan reoliad 4(2); a
(b)os bydd yr awdurdod derbyn yn gwneud hynny, bydd rheoliad 5(1) yn gymwys i unrhyw wrthwynebiad ynglŷn â'r trefniadau arbennig —
(i)a wneir gan awdurdod derbyn yr ymgynghorwyd ag ef o dan reoliad 4(2)(b), a
(ii)sy'n dod o fewn cwmpas y rheoliad hwnnw,
fel y bo'n gymwys i unrhyw wrthwynebiad arall sy'n dod o fewn cwmpas y rheoliad hwnnw.
(3) Pan na chytunir ar unrhyw drefniadau arbennig a ddymunir gan gorff llywodraethu dros dro ysgol newydd o'r fath gan yr awdurod addysg lleol —
(a)caiff yr awdurdod derbyn ymgorffori drafft o unrhyw drefniadau o'r fath yn y trefniadau derbyn cychwynnol arfaethedig sy'n ddarostyngedig i ymgynghoriad o dan reoliad 4(2); ond
(b)os bydd y corff llywodraethu dros dro yn gwneud hynny-
(i)byddant yn cyfeirio'r trefniadau drafft at y Cynulliad, a
(ii)ni fyddant yn penderfynu mabwysiadu'r trefniadau hynny yn y trefniadau derbyn cychwynnol ar gyfer yr ysgol oni fydd (ac i'r graddau y bydd) y Cynulliad yn penderfynu y gallant wneud hynny o dan y rheoliad hwn, a
(iii)caiff unrhyw un o'r cyrff yr ymgynghorwyd â hwy o dan reoliad 4(2) godi gwrthwynebiad yn y dull a ragnodir gan O.S. 1999/125 i'r Cynulliad ynglŷn â'r trefniadau drafft.
(4) Ar ôl cael cyfeiriad o'r fath, bydd y Cynulliad yn penderfynu (gan roi sylw i unrhyw wrthwynebiadau a gafwyd ganddo o dan baragraff (3)) a gaiff yr awdurdod derbyn fabwysiadu'r trefniadau drafft, heb eu haddasu neu beidio, ond ni fydd dim yn y paragraff hwn yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad gymryd camau o'r fath cyn bod y cynigion y mae'n ofynnol eu cyhoeddi o dan adran 28(1) a (2) o Ddeddf 1998 wedi'u cymeradwyo yn unol â darpariaethau Atodlen 6 i'r Ddeddf honno.
(5) Yn achos unrhyw trefniadau drafft a gyfeirir ato o dan y rheoliad hwn, bydd y Cynulliad yn cyhoeddi ei benderfyniad ar y cyfeiriad a'r rhesymau drosto.
(6) Dyma'r wybodaeth y dylid ei chyhoeddi o dan baragraff (5) —
(a)enw'r awdurdod derbyn ac (os yw'n wahanol) yr ysgol y mae'r trefniadau derbyn cychwynnol yn ymwneud â hwy; a
(b)disgrifiad byr o'r penderfyniad a'r rhesymau drosto.
(7) Bydd penderfyniad y Cynulliad ar unrhyw gyfeiriad o'r fath ynglŷn â'r trefniadau drafft o dan sylw, yn rhwymo'r corff llywodraethu dros dro a phob person yr ymgynghorwyd â hwy o dan reoliad 4(2).
(8) Pan fydd awdurdod derbyn, yn unol â darpariaethau blaenorol y rheoliad hwn (a chyhyd ag y bo'n gymwysadwy, rheoliadau 4 a 5), benderfynu y dylai'r trefniadau derbyn cychwynnol ar gyfer eu hysgol gynnwys unrhyw drefniadau arbennig, bydd y darpariaethau hynny yn gymwys ar unrhyw adeg wedi hynny —
(a)pan fydd yr awdurdod derbyn yn dymuno addasu'r trefniadau arbennig hynny; neu
(b)lle cytunodd yr awdurdod addysg lleol ar unrhyw drefniadau o'r fath, pan fydd yr awdurdod yn tynnu eu cytundeb ar y trefniadau hynny yn ôl neu unrhyw ran ohonynt p'un ai gyda golwg ar geisio gwneud unrhyw addasiad iddynt neu fel arall.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: