1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr) (Eithriadau) (Cymru) a deuant i rym ar 1 Medi 1999.
(2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998.
2. Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i'r diffiniad o ffioedd sy'n daladwy i sefydliadau yng Nghymru at ddibenion Pennod 1 o Ran II o'r Ddeddf.
3. Rhagnodir unrhyw ffi o ddisgrifiad a bennir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn at ddiben adran 28(1)(e) o'r Ddeddf (sy'n darparu bod ffioedd sy'n cael eu rhagnodi wedi'u heithrio o ystyr ffioedd ym Mhennod 1 o Ran II o'r Ddeddf).
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(1).
Dayfdd Elis Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
26 Awst 1999