Offerynnau Statudol Cymru
1999 Rhif 3439 (Cy. 47)
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 1999
Wedi'u gwneud
17 Rhagfyr 1999
Yn dod i rym
31 Rhagfyr 1999
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 140(4), 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol(1) a pharagraffau 4, 5 a 6 o Atodlen 8 iddi, ac a freiniwyd bellach ynddo i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru(2):
Enwi, cychwyn a dehongli
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 1999 a byddant yn dod i rym ar 31 Rhagfyr 1999.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 1992” yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992(3).
Diwygio Rheoliadau 1992
2. Ynglŷn â'r blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2000, diwygir Atodlenni 1, 2 a 4 i Reoliadau 1992 fel a ganlyn:—
(a) ym mharagraff 4(1) o Atodlen 1, yn lle'r fformwla “(A × £39.50) + (B × 0.00087)” y rhoddir y fformwla “(A × £39.90) + (B × 0.00078)”;
(b) ym mharagraff 2(12) o Atodlen 2 yn lle “0.999” y rhoddir “1.005”;
(c) yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992 y rhoddir yr Atodlen a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).
Dafydd Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Rhagfyr 1999
ATODLEN
Erthygl 2
“ATODLEN 4FFIGURAU POBLOGAETH OEDOLION
Ardal awdurdod bilio | Ffigur a ragnodwyd |
---|---|
Blaenau Gwent | 54,700 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 101,200 |
Caerffili | 127,500 |
Sir Gaerfyrddin | 132,900 |
Caerdydd | 243,600 |
Ceredigion | 56,800 |
Conwy | 88,900 |
Sir Ddinbych | 70,500 |
Sir y Fflint | 113,400 |
Gwynedd | 91,700 |
Ynys Môn | 50,200 |
Merthyr Tudful | 42,400 |
Sir Fynwy | 67,200 |
Castell-nedd Port Talbot | 107,300 |
Casnewydd | 104,900 |
Sir Benfro | 87,400 |
Powys | 98,700 |
Rhondda, Cynon, Taf | 183,900 |
Abertawe | 179,400 |
Tor-faen | 68,300 |
Bro Morgannwg | 92,000 |
Wrecsam | 96,300” |
Nodyn Esboniadol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
O dan Ran II o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 mae'n ofynnol i awdurdodau bilio yng Nghymru dalu symiau (a elwir yn gyfraniadau ardrethu annomestig) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a chynhwysir rheolau i gyfrifo'r cyfraniadau hynny yn Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r rheolau hynny drwy roi fformwla newydd ym mharagraff 4(1) o Atodlen 1 (didyniadau o'r swm gros), lluosydd newydd ym mharagraff 2(12) o Atodlen 2 (rhagdybiaethau ynglŷn â'r swm gros) ac Atodlen 4 newydd (ffigurau poblogaeth oedolion).
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672.
O.S. 1992/3238, a ddiwygiwyd gan O.S. 1993/1505, 1993/3077, 1994/547, 1994/1742, 1994/3125, 1995/3235, 1996/3018, 1997/3003 a 1998/2962.