Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 1999

Offerynnau Statudol Cymru

1999 Rhif 3439 (Cy. 47)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 1999

Wedi'u gwneud

17 Rhagfyr 1999

Yn dod i rym

31 Rhagfyr 1999

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 140(4), 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol(1) a pharagraffau 4, 5 a 6 o Atodlen 8 iddi, ac a freiniwyd bellach ynddo i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru(2):

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 1999 a byddant yn dod i rym ar 31 Rhagfyr 1999.

(2Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 1992” yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992(3).

Diwygio Rheoliadau 1992

2.  Ynglŷn â'r blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2000, diwygir Atodlenni 1, 2 a 4 i Reoliadau 1992 fel a ganlyn:—

(aym mharagraff 4(1) o Atodlen 1, yn lle'r fformwla “(A × £39.50) + (B × 0.00087)” y rhoddir y fformwla “(A × £39.90) + (B × 0.00078)”;

(bym mharagraff 2(12) o Atodlen 2 yn lle “0.999” y rhoddir “1.005”;

(cyn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992 y rhoddir yr Atodlen a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).

Dafydd Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

17 Rhagfyr 1999

ATODLEN

Erthygl 2

ATODLEN 4FFIGURAU POBLOGAETH OEDOLION

Ardal awdurdod bilioFfigur a ragnodwyd
Blaenau Gwent54,700
Pen-y-bont ar Ogwr101,200
Caerffili127,500
Sir Gaerfyrddin132,900
Caerdydd243,600
Ceredigion56,800
Conwy88,900
Sir Ddinbych70,500
Sir y Fflint113,400
Gwynedd91,700
Ynys Môn50,200
Merthyr Tudful42,400
Sir Fynwy67,200
Castell-nedd Port Talbot107,300
Casnewydd104,900
Sir Benfro87,400
Powys98,700
Rhondda, Cynon, Taf183,900
Abertawe179,400
Tor-faen68,300
Bro Morgannwg92,000
Wrecsam96,300

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

O dan Ran II o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 mae'n ofynnol i awdurdodau bilio yng Nghymru dalu symiau (a elwir yn gyfraniadau ardrethu annomestig) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a chynhwysir rheolau i gyfrifo'r cyfraniadau hynny yn Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r rheolau hynny drwy roi fformwla newydd ym mharagraff 4(1) o Atodlen 1 (didyniadau o'r swm gros), lluosydd newydd ym mharagraff 2(12) o Atodlen 2 (rhagdybiaethau ynglŷn â'r swm gros) ac Atodlen 4 newydd (ffigurau poblogaeth oedolion).

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672.