1999 Rhif 3439 (Cy. 47)
Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 1999
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 140(4), 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol1 a pharagraffau 4, 5 a 6 o Atodlen 8 iddi, ac a freiniwyd bellach ynddo i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru2:
Enwi, cychwyn a dehongli1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 1999 a byddant yn dod i rym ar 31 Rhagfyr 1999.
2
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 1992” yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 19923.
Diwygio Rheoliadau 19922
Ynglŷn â'r blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2000, diwygir Atodlenni 1, 2 a 4 i Reoliadau 1992 fel a ganlyn:—
a
ym mharagraff 4(1) o Atodlen 1, yn lle'r fformwla “(A × £39.50) + (B × 0.00087)” y rhoddir y fformwla “(A × £39.90) + (B × 0.00078)”;
b
ym mharagraff 2(12) o Atodlen 2 yn lle “0.999” y rhoddir “1.005”;
c
yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992 y rhoddir yr Atodlen a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984.
ATODLEN
ATODLEN 4FFIGURAU POBLOGAETH OEDOLION
Ardal awdurdod bilio
Ffigur a ragnodwyd
Blaenau Gwent
54,700
Pen-y-bont ar Ogwr
101,200
Caerffili
127,500
Sir Gaerfyrddin
132,900
Caerdydd
243,600
Ceredigion
56,800
Conwy
88,900
Sir Ddinbych
70,500
Sir y Fflint
113,400
Gwynedd
91,700
Ynys Môn
50,200
Merthyr Tudful
42,400
Sir Fynwy
67,200
Castell-nedd Port Talbot
107,300
Casnewydd
104,900
Sir Benfro
87,400
Powys
98,700
Rhondda, Cynon, Taf
183,900
Abertawe
179,400
Tor-faen
68,300
Bro Morgannwg
92,000
Wrecsam
96,300
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)