- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliad 3
Person dynodedig
Bwrdd Ffyrdd Dŵr Prydain
Hereditamentau perthnasol
Yr hereditament a ddisgrifir yn rheoliad 5(2) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Rheilffyrdd, Telathrebu a Chamlesi) 1994
Person dynodedig
The National Grid Company plc
Hereditamentau perthnasol
Hereditamentau (ar wahân i hereditamentau a eithrir) a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf at drawsffurfio neu drawsyrru pŵer trydanol, neu at ddibenion ategol
Person dynodedig
Manweb plc
Midlands Electricity plc
South Wales Electricity plc
Hereditamentau perthnasol
Hereditamentau (ar wahân i hereditamentau a eithrir) a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf at swyddogaethau cyflenwr trydan cyhoeddus, neu at ddibenion ategol
Yn y Rhan hon—
ystyr “hereditament a eithrir” yw hereditament sy'n cynnwys tir ac adeiladau a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf—
fel siop neu le arall ar gyfer gwerthu, arddangos neu ddangos cyfarpar neu atodion at ddefnydd defnyddwyr trydan (gan anwybyddu unrhyw ddefnydd ar gyfer derbyn taliadau am ddefnyddio trydan);
fel adeiladau swyddfa person dynodedig, os na fydd yr adeiladau hynny ar dir gweithredol y person hwnnw; neu
at y naill a'r llall o'r dibenion blaenorol; ac
mae i “cyflenwr trydan cyhoeddus” yr un ystyr ag sydd i “public electricity supplier” yn adran 6(9) o Ddeddf Trydan 1989(1).
Person dynodedig
BG plc
Hereditamentau perthnasol
Hereditamentau (ar wahân i hereditamentau a eithrir) a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf at ddibenion BG plc yn gweithredol fel cludwr nwy cyhoeddus
Yn y Rhan hon—
ystyr “hereditament a eithrir” yw hereditament sy'n cynnwys tir ac adeiladau a ddefnyddir neu, os nad feddiennnir hwy, y bwriedir eu defnyddio yn gyfan gwbl neu'n bennaf
er mwyn gwneuthur peiriannau a ffitiadau nwy;
fel cyfleusterau storio pwysedd uchel neu gyfleusterau storio nwy naturiol hylifedig neu gyfleusterau a ddefnyddir neu sydd ar gael i'w defnyddio mewn cysylltiad â storio alltraeth;
fel adeiladau swyddfa, pan nad yw'r adeiladau ar dir gweithredol BG plc; neu
at fwy nag un o'r dibenion blaenorol, ac
mae i “cludwr nwy cyhoeddus” yr un ystyr ag sydd i “public gas transporter” yn Rhan 1 o Ddeddf Nwy 1986(2); acmae cyfeiriadau i BG plc yn gyfeiriadau at y cwmni sy'n dwyn yr enw hwnnw ar 9 Tachwedd 1999.
Person dynodedig
Railtrack plc
Hereditamentau perthnasol
Yr hereditamentau a leolir yng Nghymru ac a ddisgrifir yn rheoliad 3(3) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Rheilffyrdd, Telathrebu a Chamlesi) 1994
Person dynodedig
British Telecommunications plc
Hereditamentau perthnasol
Yr hereditament a ddisgrifir yn rheoliad 4(1) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Rheilffyrdd, Telathrebu a Chamlesi) 1994
Person dynodedig
Mercury Communications Limited
Hereditamentau perthnasol
Yr hereditament a ddisgrifir yn rheoliad 4(2) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Rheilffyrdd, Telathrebu a Chamlesi) 1994
Person dynodedig
Racal Telecommunications Limited
Hereditamentau perthnasol
Yr hereditament a ddisgrifir yn rheoliad 4(3) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Rheilffyrdd, Telathrebu a Chamlesi) 1994
Person dynodedig
Energis Communications Limited
Hereditamentau perthnasol
Yr hereditament a ddisgrifir yn rheoliad 4(4) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Rheilffyrdd, Telathrebu a Chamlesi) 1994
Person dynodedig
AT&T(UK) Limited
Hereditamentau perthnasol
Yr hereditament a ddisgrifir yn rheoliad 4(5) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Rheilffyrdd, Telathrebu a Chamlesi) 1994
Person Dynodedig
Dee Valley Water plc
Dŵr Cymru Cyfyngedig
North West Water Limited
Severn Trent Water Limited
Hereditamentau perthnasol
Hereditamentau (ar wahân i hereditamentau a eithrir) a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf at ddibenion ymgymerwr dŵr o dan Ran III o Ddeddf Diwydiant Dŵr 1991(3), neu at ddibenion ategol
Yn y rhan hon ystyr “hereditament a eithrir” yw hereditament sy'n cynnwys tir ac adeiladau a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf—
at wneud, storio, gwerthu, arddangos neu ddangos cyfarpar neu atodion at ddefnydd defnyddwyr dŵr (gan anwybyddu unrhyw ddefnydd ar gyfer derbyn taliadau am ddefnyddio dŵr neu wasanaethau carthffosiaeth); neu
fel adeiladau swyddfa a feddiennir gan berson dynodedig, os na fydd yr adeiladau hynny ar dir gweithredol y person hwnnw; neu
at y naill a'r llall o'r dibenion blaenorol.
Person dynodedig
Mainline Pipelines Limited
Hereditamentau perthnasol
Piblinellau traws-gwlad (o fewn ystyr Deddf Piblinellau 1962(4)) a leolir o fewn ardal mwy nag un awdurdod bilio.
Yn yr Atodlen hon—
ystyr “adeiladau swyddfa” yw unrhyw hereditament a adeiladwyd neu a addaswyd yn swyddfeydd neu at ddibenion swyddfa, neu a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf at y dibenion hynny;mae “dibenion swyddfa” yn cynnwys dibenion gweinyddu a gwaith clerigol a thrin arian; ac mae “gwaith clerigol” yn cynnwys ysgrifennu, cadw cyfrifon, teipio, ffeilio, dyblygu, trefnu papurau neu wybodaeth neu gyfrif (boed â llaw, â pheiriant neu â chyfrwng electronig), tynnu lluniau a golygu deunydd ar gyfer ei gyhoeddi;
ystyr “tir gweithredol”, mewn perthynas â pherson dynodedig yw'r tir a ddefnyddir at ddibenion cynnal ymgymeriad y person hwnnw, sef tir, o ran ei natur a'i leoliad, sydd yn fwy cymaradwy â thir a ddefnyddir at ddibenion ymgymeriadau statudol (o fewn ystyr Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(5)) nag â thir yn gyffredinol;Ac mae unrhyw gyfeiriad at hereditamentau a ddefnyddir at unrhyw bwrpas yn cynnwys cyfeiriad at hereditamentau nas defnyddir ond, mewn perthynas â hwy, ymddengys y cânt eu defnyddio at ddiben o'r fath pan ddefnyddir hwy nesaf.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: