
Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThis
Section
only
Statws
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Dehongli
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn:
Ystyr “A” (“A”) yw'r gwerth ardrethol a ddangosir ar gyfer hereditament ar restr ar 1 Ebrill 2000 neu'r gwerth a ardystir gan y swyddog prisio priodol fel y gwerth ardrethol a fyddai wedi bod yn gymwys i'r hereditament ar 1 Ebrill 2000;
mae i “atebolrwydd sylfaenol” (“BL”) >(“base liability”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 5;
ystyr “B” (“B”) yw'r lluosydd ardrethu annomestig ar gyfer y flwyddyn berthnasol;
mae i “flwyddyn berthnasol” (“relevant year”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 3(2);
ystyr “C” (“C”) yw'r gwerth ardrethol ar gyfer yr hereditament a ddangosir ar restr ardrethu ar gyfer y diwrnod perthnasol;
mae i “gyfnod perthnasol” (“relevant period”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 3(1);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988;
mae i “ddiwrnod perthnasol” (“relevant day”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 3(3);
mae i “hereditament diffiniedig” (“defined hereditament”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 4;
mae i “hereditatment y Goron” (“Crown hereditament”) yr un ystyr ag sydd i “Crown hereditament” yn adran 65A (4) o'r Ddeddf ();
mae i “person â buddiant” (“interested person”) yr un ystyr ag sydd i “interested person” yn Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apeliadau) 1993 ()
mae i “person dynodedig” (“designated person”) yr un ystyr ac sydd iddo yn Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 1999 ();
ystyr “rhestr” (“list”) yw'r rhestr ardrethu annomestig leol berthnasol neu restr sy'n cael ei llunio a'i chadw'n unol ag adran 53 o'r Ddeddf;
mae i “swm tybiannol y gellir ei godi”(“NCA”) >(“notional chargeable amount”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 6;
ystyr “swyddog prisio priodol” (“appropriate valuation officer”) —
(a)
mewn perthynas â hereditament y mae rheoliadau o dan adran 53(1) o'r Ddeddf (cynnwys y rhestri canolog) mewn grym ynglŷn ag ef, yw'r swyddog prisio canolog;
(b)
mewn perthynas â hereditament nad oes unrhyw reoliadau o'r fath mewn grym ynglŷn ag ef, yw'r swyddog prisio sy'n cadw'r rhestr y mae'r hereditament wedi'i ddangos arni (neu y byddai'n cael ei ddangos arni, yn ôl yr hyn a fynnir gan y cyd-destun);
(2) O ran person dynodedig, mae cyfeiriadau at hereditament person dynodedig yn gyfeiriadau at unrhyw hereditament neu, fel y bo'r achos, yn gyfeiriadau at ddisgrifiad neu ddosbarth o hereditamentau, a ragnodir mewn perthynas â'r person dynodedig hwnnw.
Back to top