Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Treth Gyngor (Atebolrwydd Perchnogion i Dalu) 1992 yn rhagnodi dosbarthiadau o anheddau y mae'r perchennog, yn hytrach na'r preswylydd, yn atebol i dalu treth gyngor ar eu cyfer.

O 3 Ebrill 2000 ymlaen bydd ceiswyr lloches, yng Nghymru, sy'n ddiymgeledd i bob golwg, yn cael llety ac angenrheidiau byw hanfodol eraill o dan adran 95 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999, ac ni fyddant yn gymwys i gael budd-daliadau gan gynnwys budd-dâl treth gyngor.

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu mai perchennog y llety, yn hytrach na'r ceisydd lloches sy'n preswylio yno, fydd yn atebol i dalu treth gyngor ar gyfer unrhyw lety sy'n cael ei ddarparu o dan adran 95 gan ychwanegu dosbarth newydd o anheddau at y dosbarthiadau sydd wedi'u rhagnodi gan Reoliadau 1992.