1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd 1999 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2000.
(2) Yn y Gorchymyn hwn —
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd 1999;
ystyr “Deddf 1977” (“the 1977 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(1).
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.