Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd 1999 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2000.
2
Yn y Gorchymyn hwn —
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd 1999;
ystyr “Deddf 1977” (“the 1977 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 19772.
3
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
Diwrnod penodedig2
–
1
1 Ebrill 2000 yw'r diwrnod penodedig y daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym i'r graddau a bennir yno.
2
Er bod paragraff (1) yn dod â diddymiad paragraffau 19 a 20 o Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 19903 i rym, bydd y darpariaethau hynny yn parhau i gael effaith mewn perthynas â nwyddau neu wasanaethau a ddarparwyd cyn y diddymu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984)