Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd 1999 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2000.

(2Yn y Gorchymyn hwn —

(3Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

Diwrnod penodedig

2.  

(11 Ebrill 2000 yw'r diwrnod penodedig y daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym i'r graddau a bennir yno.

(2Er bod paragraff (1) yn dod â diddymiad paragraffau 19 a 20 o Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990(2) i rym, bydd y darpariaethau hynny yn parhau i gael effaith mewn perthynas â nwyddau neu wasanaethau a ddarparwyd cyn y diddymu.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3))

D. Elis Thomas

Llywydd Y Cynulliad Cenedlaethol

27 Mawrth 2000