Search Legislation

Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2000

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Erthygl 3

ATODLEN 1DANGOSYDDION PERFFORMIAD CYFFREDINOL

Rhif y DangosyddDisgrifiad y dangosyddManylion y dangosydd
BVPI 1Cadarnhad awdurdod gwerth gorau fod “Cynllun Agenda Leol 21” wedi'i fabwysiadu (fel y'i nodir yn yr adroddiad sy'n dwyn y teitl “Sustainable local communities for the 21st Century”(1) erbyn 31 Rhagfyr 2000.

Mae “Cynllun Agenda Leol 21” yn ddogfen a ddatblygwyd gan yr awdurdod lleol gyda chyfranogiad y gymuned leol a chan gynnwys y canlynol —

  • Datganiad o weledigaeth yn nodi materion ar gynaliadwyedd a nodau ar gyfer yr ardal a dangosyddion ar gyfer ansawdd bywyd a chyflwr yr amgylchedd;

  • Cynllun o gamau sydd wedi'u rhoi yn nhrefn blaenoriaeth ac a neilltuwyd i unigolion neu gyrff a enwyd.

  • Mecanweithiau gweithredu gan gynnwys gwerthuso ac adolygu.

BVPIW 1Lefel cydymffurfio â chynllun Iaith Gymraeg yr awdurdod a gymeradwywyd yn ôl yr adroddiad i Fwrdd yr Iaith Gymraeg.

Lefel gyffredinol cydymffurfio â Chynllun Iaith Gymraeg yr awdurdod a gymeradwywyd fel y'i cadarnhawyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg:

Cyflwyno gwasanaethau: da iawn; da; gweddol; gwael

Rheoli'r cynllun: da iawn; da; gweddol; gwael gellir ychwanegu ‘ac/ond yn gwella’ neu ‘ac/ond yn gwaethygu’ at lefel y perfformiad lle bo'n gymwys.

BVPI 2Lefel safon y Comisiwn dros Gydraddoldeb Hiliol ar gyfer llywodraeth leol y mae'r awdurdod gwerth gorau yn cydymffurfio â hi.

Diffinnir lefelau'r safon ar gyfer llywodraeth leol yn y bennod sy'n dwyn y teitl “Measurements” yn nogfen y Comisiwn dros Gydraddoldeb Hiliol sy'n dwyn y teitl “Auditing for Equality” ac yn y ddogfen a elwir “Racial Equality means Quality”. Dylai awdurdodau gwerth gorau gyflwyno adroddiad fel a ganlyn ar y lefel y maent wedi'i chyrraedd :–

  • Lefel 1: Mae'r awdurdod wedi ysgrifennu datganiad polisi ar hiliaeth.

  • Lefel 2: Mae gan yr awdurdod gynllun gweithredu ar gyfer monitro a llwyddo yn ei bolisi cydraddoldeb hiliol.

  • Lefel 3: Canlyniadau monitro ethnig yn erbyn y polisi cydraddoldeb a lefel ymgynghori â chymunedau lleol a ddefnyddir i adolygu polisi cyffredinol yr awdurdod.

  • Lefel 4: Gall gweithlu'r awdurdod ddangos gwelliannau clir yn ei wasanaethau yn sgil monitro, ymgynghori â chymunedau lleol, a gweithredu yn ôl ei bolisïau cyfleoedd cyfartal.

  • Lefel 5: Mae'r cyngor yn enghraifft o ymarfer gorau yn y ffordd y mae'n monitro ac yn darparu gwasanaethau i leiafrifoedd ethnig, ac yn helpu awdurdodau/gweithluoedd eraill i gyrraedd safonau uchel. Rhaid cael cadarnhad bod yr awdurdod wedi cyrraedd y lefel hon gan y Comisiwn dros Gydraddoldeb Hiliol.

  • Er mwyn cyflwyno adroddiad ar y lefelau hyn, rhaid bod awdurdod wedi mabwysiadu safon Comisiwn dros Gydraddoldeb Hiliol ar gyfer llywodraeth leol. Os nad yw'r awdurdod wedi mabwysiadu'r safon hon, dylai adrodd fel a ganlyn: “Nid yw'r awdurdod hwn wedi mabwysiadu safon y Comisiwn dros Gydraddoldeb Hiliol ar gyfer llywodraeth leol”.

BVPI 3Canran y dinasyddion sy'n fodlon ar y gwasanaeth yn gyffredinol a ddarparwyd gan yr awdurdod.Cynnal arolwg o foddhad y defnyddwyr.
BVPI 4Y ganran o'r rhai sy'n cwyno sy'n fodlon ar y ffordd yr ymdrinniwyd â'r cwynion hynny.

Mae'r dangosydd hwn yn cyfeirio at gwynion i'r awdurdod ynglŷ n â'r ffordd y mae'n cyflwyno unrhyw ran o'i wasanaeth.

Cynnal arolwg o foddhad y defnyddwyr.

BVPI 5a

Nifer y cwynion i Ombudsman a ddosberthir fel –

a)

Camweinyddu.

Nifer yr achosion a gofnodwyd ac yr adroddwyd arnynt i'r awdurdodau gan y Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru ac a ddosberthir fel “camweinyddu'n achosi anghyfiawnder” neu “camweinyddu”.
BVPI 5b

Nifer y cwynion i Ombudsman a ddoberthir fel –

b)

Setliad Lleol.

Nifer yr achosion a gofnodwyd ac yr adroddwyd arnynt i'r awdurdodau gan y Comisiwn dros Weinyddiaeth Leol yng Nghymru ac a ddosberthir fel “cwyn a setlwyd yn lleol”.
BVPI 6Nifer canrannol y rhai a bledleisiodd mewn etholiadau lleol.Diffinnir “nifer y rhai a bleidleisiodd” fel y gyfran ar y gofrestr etholwyr sy'n pledleisio mewn unrhyw etholiad yn y flwyddyn ac eithrio is–etholiadau unigol. Pan nad oes etholiad yn y flwyddyn honno, dylai'r awdurdodau adrodd nifer y rhai a bleidleisiodd yn yr etholiad diweddaraf un.
BVPI 7Canran y ffurflenni cofrestru etholiadol a ddychwelwyd.

Ceir y ganran hon drwy rannu'r nifer ar y ffurflenni cofrestru etholiadol “A” a ddychwelwyd ar ddiwedd y canfasio diweddaraf gan y nifer a anfonwyd yn y canfasio hwnnw a lluosi'r canlyniad â 100.

Y ffurflen y cyfeirir ati yn Rheoliad 29(2) o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 1986 ac a nodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hynny yw'r ffurflen gofrestru etholiadol “A”.

BVPI 8Y ganran o anfonebau diddadl a dalwyd gan yr awdurdod o fewn 30 diwrnod ar ôl derbyn yr anfonebau gan yr awdurdod.

Er mwyn cael y ganran hon bydd angen i'r awdurdod gwerth gorau rannu nifer yr holl anfonebau am nwyddau a gwasanaethau masnachol a dalwyd i gontractwyr a chyflenwyr allanol o fewn 30 diwrnod o'u derbyn yn ystod y flwyddyn ariannol, â chyfanswm yr holl anfonebau a dalwyd gan yr awdurdod yn y flwyddyn honno.

Caiff yr awdurdodau ddiystyru anfonebau a anfonwyd i ysgolion ac a dalwyd o gyllidebau a ddirprwywyd i ysgolion.

Yn y dangosydd hwn, ac at ddibenion canfod a yw'r awdurdod wedi talu'r anfoneb o fewn y cyfnod o 30 diwrnod, bydd y cyfnod yn dechrau ar yr adeg y cafwyd yr anfoneb gan yr awdurdod (nid adran dalu'r awdurdod). Yna, bydd yr awdurdod yn talu'r anfoneb honno o fewn 30 diwrnod naturiol. Mae talu'n cynnwys –

  • Anfon siec neu offeryn talu arall;

  • Hysbysu'r banc ar gyfer taliadau trwy gyfrwng Gwasanaeth Clirio Awtomatig y Bancwyr; neu

  • Prosesu'r taliad gan y banc os yw'r awdurdod yn pennu cyfnod y mae'r banc i wneud y taliadau ar ei ôl cyn gynted ag y mae'n cael tâp Gwasanaeth Clirio Awtomatig y Bancwyr.

Os ceir anfoneb cyn i'r gwasanaethau gael eu darparu neu i'r nwyddau ddod i law, mae'r 30 diwrnod neu'r cyfnod y cytunir arno yn dechrau pan geir y nwyddau'n foddhaol neu pan gwblheir y gwasanaethau'n foddhaol. Pan nad yw'r awdurdod yn cofnodi'r dyddiad y mae'n cael yr anfoneb, dylai ychwanegu dau ddiwrnod at ddyddiad yr anfoneb oni bai ei fod wedi samplu anfonebau yn ystod y flwyddyn honno er mwyn cael cyfnod mwy cywir i'w ychwanegu at y dyddiad.

Os defnyddir samplu, dylai'r sampl fod yn nodweddiadol yn fras o'r holl anfonebau a geir gan adrannau gwahanol ac ar adegau gwahanol o'r flwyddyn, a dylai gynnwys oleiaf 500 anfoneb.

BVPI 9Cyfran y Dreth Gyngor a gasglwyd.

Bydd angen i'r awdurdodau gael canran o'r dreth gyngor a gafwyd ym mhob blwyddyn ariannol.

Fel ffurflen CTC99 Cynulliad Cenedlaethol Cymru Adran A Llinell 3 Colofn C fel canran o Linell 2 Colofn C.

BVPI 10Canran yr ardrethi busnes yn ystod y flwyddyn honno a ddylai fod wedi dod i law ac a gafwyd mewn gwirionedd.Canran yr ardreth fusnes a gafwyd gan yr awdurdod mewn unrhyw flwyddyn ariannol. Adwaenir hon fel y ganran o'r Dreth Annomestig Genedlaethol a gasglwyd. Fel ffurflen CTC99 Cynulliad Cenedlaethol Cymru Llinell 10 fel canran o ffurflen NNDR3 1998/99 CCC Rhan II Llinellau 1(i)+2(i) llai Llinellau 3(i)+4(i)+6(i)+7(i).
BVPI 11Canran swyddi rheoli uwch a ddelir gan fenywod.

Bydd angen i'r dangosydd hwn adlewyrchu'r sefyllfa ar 31 Mawrth yn y flwyddyn ariannol pan geir y ganran hon.

Amcangyfrifir y ganran drwy gyfrifo nifer y menywod mewn swydd ar lefel rheolaeth uwch fel canran o'r holl staff mewn swydd ar lefel rheolaeth uwch, lle diffinir “rheolaeth uwch” fel y tair haen uchaf rheolaeth yn yr awdurdod.

BVPI 12Cyfran y dyddiau gwaith /sifftiau a gollir o achos absenoldeb drwy salwch.

Ceir y gyfran o ddyddiau neu sifftiau a gollir o achos absenoldeb drwy salwch wrth i'r awdurdod gyfrifo'r rhifiadur a'r enwadur fel y diffinnir hwy isod.

Diffinnir y rhifiadur fel y cyfanswm o'r dyddiau gwaith a gollwyd o achos absenoldeb drwy salwch heb ystyried a ardystiwyd hynny gan y person ei hunan neu drwy dystysgrif ymarferydd cyffredinol neu a yw'n absenoldeb drwy salwch hir-dymor.

Bydd hyn yn cynnwys y dyddiau a gollwyd o achos salwch gan holl weithwyr parhaol awdurdod lleol, gan gynnwys athrawon, staff a gyflogir mewn ysgolion a staff a gyflogir mewn Cyrff Llafur Uniongyrchol a Chyrff Gwasanaeth Uniongyrchol. Er hynny, at ddibenion y rhifiadur hwn, dylid anwybyddu'r dyddiau a gollwyd o achos salwch gan staff dros dro neu gan staff asantiaeth. Yn ychwanegol, dylid anwybyddu hefyd y dyddiau a gollwyd gan staff ar seibiant mamolaeth neu dadolaeth. Diffinnir yr enwadur fel nifer cyfartalog y staff Cyfwerth ag Amser Llawn sy'n cael eu cyflogi gan yr awdurdod o fewn blwyddyn ariannol. Ar gyfer staff sy'n gweithio'n rhan amser, dylai'r awdurdod gyfrifo'r hyn sy'n Gyfwerth ag Amser Llawn ar gyfer y rhifiadur a'r enwadur ar sail gyson.

BVPI 13Y rhai sy'n ymadael yn wirfoddol fel canran o'r staff mewn swydd.

Amcangyfrifir y dangosydd hwn drwy rannu nifer y rhai sy'n ymadael yn wirfoddol fesul blwyddyn ariannol â nifer cyfartalog y staff mewn swydd yn ystod y flwyddyn honno a lluosi'r canlyniad â 100.

Ystyr nifer cyfartalog y staff mewn swydd yn ystod y flwyddyn yw nifer y staff ar ddechrau'r flwyddyn ariannol plws nifer y staff ar ddiwedd y flwyddyn honno a'i rannu â 2.

Ystyr nifer y staff yw nifer y staff mewn swydd ar yr adeg yr amcangyfrifir y dangosydd. Dylai hyn beidio â chynnwys staff asantiaeth a'r rhai hynny sy'n ymadael ar ddiwedd contract tymor penodol ond dylai gynnwys staff yr awdurdod mewn ysgolion.

BVPI 14Ymddeoliadau cynnar (gan eithrio ymddeoliadau ar sail afiechyd) fel canran o'r gweithlu llawn.

65 oed yw'r “oedran ymddeol normal” pan ddaw budd- daliadau ymddeol yn daladwy oni bai fod caniatâd yn cael ei roi fel arall neu fod gan berson hawliau sydd wedi'u diogelu. Mae ymddeoliad cynnar ar sail diswyddo yn digwydd pan fydd gweithiwr unigol sy'n 50 oed neu drosodd mewn swydd y mae'r cyflogwr yn ardystio nad oes angen amdani bellach. Mae ymddeoliad cynnar ar sail effeithlonrwydd yn digwydd pan fydd gweithiwr 50 oed neu drosodd wedi peidio â bod yn gyflogedig a bod y cyflogwr wedi ardystio mai'r rheswm dros derfynu cyflogaeth ywer mwyn arfer swyddogaethau'r awdurdod yn effeithlon'.

At ddibenion cyfrifo'r dangosydd hwn, dylid cynnwys staff yr awdurdod mewn ysgolion.

BVPI 15Ymddeoliadau ar sail afiechyd fel canran o'r gweithlu llawn.

Gall “ymddeoliad ar sail afiechyd” ddigwydd ar unrhyw oedran pan fydd ymarferydd meddygol cofrestredig annibynnol â chymhwyster mewn iechyd galwedigaethol wedi ardystio fod y gweithiwr yn barhaol analluog i berfformio dyletswyddau'r gyflogaeth honno neu gyflogaeth mewn awdurdod lleol sydd ar y cyfan yn gyflogaeth y gellir ei chymharu â hi gyda'i awdurdod cyflogi o achos afiechyd neu eiddilwch meddwl neu gorff.

At ddibenion cyfrifo'r dangosydd hwn, dylid cynnwys staff yr awdurdod mewn ysgolion.

BVPI 16Canran y staff sy'n datgan eu bod yn ateb y diffiniad o anabledd yn Neddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 fel canran o'r gweithlu llawn.

I gael diffiniad o “anabledd” gweler y diffiniad o “disability” yn Adran 1 o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 (p.50).

Bydd yr awdurdod yn amcangyfrif y dangosydd hwn drwy rannu nifer. Staff anabl yr awdurdod hwnnw â nifer llawn staff yr awdurdod. Bydd canlyniad y rhaniad hwn wedyn yn cael ei luosi â 100.

At ddibenion cyfrifo'r dangosydd hwn, dylid cynnwys staff yr awdurdod mewn ysgolion.

BVPI 17Canran y staff o gymunedau ethnig lleiafrifol fel canran o'r gweithlu llawn.

Ceir y dangosydd hwn trwy rannu nifer y staff o gymunedau ethnig lleiafrifol â nifer llawn y staff yn yr awdurdod. Bydd canlyniad y rhaniad hwn wedyn yn cael ei luosi â 100.

At ddibenion cyfrifo'r dangosydd hwn, dylid cynnwys staff yr awdurdod mewn ysgolion.

(1)

Sustainable local communities for the 21st century. Why and how to prepare an effective Local Agenda 21 strategy, Cymdeithas Llywodraeth Leol, Bwrdd Rheolaeth Llywodraeth Leol a'r DETR (Ionawr 1998).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources