- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Erthygl 3
Rhif y Dangosydd | Disgrifiad y dangosydd | Manylion y dangosydd |
---|---|---|
BVPIW 10 | Y ganran o'r boblogaeth sy'n dod o dan gynllun datblygu a fabwysiadwyd (lle nad yw dyddiad diwedd y cynllun wedi dod i ben eto) | Y boblogaeth sy'n preswylio yn ardal/ardaloedd y cynllun lleol neu'r cynllun datblygu unedol fel canran o gyfanswm y boblogaeth breswyl (gan ddefnyddio Ffigur Amcangyfrif Canol Blwyddyn 1998). |
BVPI 107 | Cost cynllunio am bob pen o'r boblogaeth | Cost gros cynllunio. Seilir y dangosydd hwn ar ddiffiniad o'r costau cynllunio craidd sy'n cael ei arbrofi ar hyn o bryd gan Gymdeithas y Swyddogion Cynllunio. |
BVPI 108 | Nifer y gwyriadau o'r cynllun statudol a hysbyswyd ac a gymeradwywyd gan yr awdurdod fel canran o gyfanswm y caniatadau a roddwyd | Nifer y caniatadau a roddwyd lle hysbyswyd y cais o dan ddarpariaethau Erthygl 8(2)(b) o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Ddatblygu Gyffredinol) 1995 (O.S. 1995/419) fel canran o gyfanswm y penderfyniadau a wnaed. |
BVPI 109 | Canran o gyfanswm y ceisiadau a benderfynwyd o fewn 8 wythnos | Fel yn Arolwg Chwarterol CCC ar Reoli Datblygu. Wrth bennu targedau lleol dylai'r awdurdodau lleol roi sylw i'r targed cenedlaethol o 80% o fewn 8 wythnos. |
BVPI 110 | Yr amser a gymerir ar gyfartaledd i benderfynu ar bob cais | Yr amser rhwng y cais i'r penderfyniad ar bob cais y penderfynir arno fel y'u cofnodir ar y Ffurflenni Ystadegau Cynllunio y Cynulliad Cenedlaethol, wedi'i rannu â chyfanswm y ceisiadau y penderfynwyd arnynt. Dylai'r awdurdodau lleol gyhoeddi targedau ar wahân ar gyfer ceisiadau gan ddeiliaid tai, ceisiadau mawr a cheisiadau mân. |
BVPIW 11 | Ansawdd y gwasanaeth i gwsmeriaid (rhestr gyfeirio Cymdeithas Swyddogion Cynllunio Cymru) | Mae'r dangosydd hwn yn defnyddio'r Rhestr Gyfeirio Gwasanaethau Cwsmeriaid sy'n cael ei harbrofi ar hyn o bryd gan Gymdeithas Swyddogion Cynllunio Cymru. Nifer y dangosyddion ansawdd a gyrhaeddwyd, wedi'i fynegi fel cymhareb o gyfanswm y dangosyddion ansawdd, e.e. cyfanswm = 10 a byddai awdurdod a fyddai'n cyrraedd 5 o'r dangosyddion yn sgorio 5/10. Dyma'r dangosyddion ansawdd:
|
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: