Search Legislation

Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cymunedol ar gyfer Monitro â Lloeren) (Cymru) 2000

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn –

  • ystyr “Aelod-wladwriaeth” (“Member State”) yw un o Aelod-wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd;

  • ystyr “Canolfan Monitro Pysgodfeydd” (“Fisheries Monitoring Centre”) yw canolfan monitro pysgodfeydd a sefydlir o dan Erthygl 3.7 o Reoliad 2847/93;

  • mae “cwch pysgota” (“fishing boat”) yn cynnwys cwch derbyn o fewn ystyr Rheoliad 2847/93;

  • ystyr “cwch pysgota Albanaidd” (“Scottish fishing boat”) yw cwch pysgota a gofrestrwyd yn y gofrestr a gedwir o dan adran 8 o Ddeddf Llongau Masnachol 1995(1) ac y mae ei fanylion yn y gofrestr yn pennu porthladd yn yr Alban fel y porthladd y dylid ei drin fel y porthladd y mae'r cwch yn perthyn iddo;

  • ystyr “cwch pysgota Prydeinig perthnasol” (“relevant British fishing boat”) yw cwch pysgota, heblaw cwch pysgota Albanaidd, sydd naill ai wedi'i gofrestru yn y Deyrnas Unedig o dan Ran II o Ddeddf Llongau Masnachol 1995 neu sy'n perthyn yn gyfan gwbl i bersonau sy'n gymwys i berchenogi cychod Prydeinig at ddibenion y Rhan honno o'r Ddeddf honno;

  • ystyr “dyfais olrhain loerennol” (“satellite tracking device”) yw dyfais ar gyfer anfon yr wybodaeth a fynnwyd at Ganolfan Monitro Pysgodfeydd o gwch pysgota drwy gyfrwng lloeren a gorsaf ar y ddaear;

  • ystyr “yn gallu cael ei pholio” (“capable of being polled”), mewn perthynas â dyfais olrhain loerennol, yw:

    (a)

    yn gallu derbyn cais gan Ganolfan Monitro Pysgodfeydd i roi'r wybodaeth a fynnwyd i'r Ganolfan honno ar amser heblaw'r amser sy'n ofynnol o dan erthygl 3(4) o'r Gorchymyn hwn; a

    (b)

    yn rhoi'r wybodaeth a fynnwyd i'r Ganolfan honno ar unwaith mewn ymateb;

    ystyr “gwybodaeth a fynnwyd” (“required information”) yw data ynghylch –

    (a)

    adnabyddiaeth y cwch pysgota;

    (b)

    lleoliad daearyddol diweddaraf y cwch pysgota wedi'i fynegi mewn graddau a munudau o hydred a lledred o fewn lwfans cyfeiliornad o lai na 500 metr ac o fewn cyfwng hyder o 99%; ac

    (c)

    dyddiad ac amser pennu'r lleoliad hwnnw;

  • ystyr “mesur Cymunedol ar gyfer monitro â lloeren” (“Community satellite monitoring measure”) yw un o ddarpariaethau:

    (a)

    Erthygl 3 ac Erthygl 28c, i'r graddau y mae'n cyfeirio at systemau monitro cychod sydd wedi'u seilio ar loeren, yn Rheoliad 2847/93; neu

    (b)

    Rheoliad 1489/97;

    ystyr “Rheoliad 2847/93” (“Regulation 2847/93”) yw Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2847/93 sy'n sefydlu system rheoli sy'n gymwys ar gyfer y polisi pysgodfeydd cyffredin(2) fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 2870/95(3), Penderfyniad y Cyngor (EC) 95/528(4), Rheoliad y Cyngor (EC) 2489/96(5), Rheoliad y Cyngor (EC) 686/97(6), Rheoliad y Cyngor (EC) 2205/97(7), Rheoliad y Cyngor (EC) 2635/97(8), a Rheoliad y Cyngor (EC) 2846/98(9);

  • ystyr “Rheoliad 1489/97” (“Regulation 1489/97”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1489/97 yn pennu rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2847/93 o ran systemau monitro cychod sydd wedi'u seilio ar loeren(10) fel y'i cywirwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) 434/98(11) a'i diwygio gan Reoliad y Comisiwn (EC) 831/99(12) a Rheoliad y Comisiwn (EC) 2445/99(13);

  • ystyr “tramgwydd perthnasol” (“relevant offence”) yw:

    (a)

    tramgwydd o dan Erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn; neu

    (b)

    tramgwydd o dan unrhyw ddarpariaeth mewn gorchymyn sy'n ymestyn i unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig a wneir er mwyn gweithredu mesur Cymunedol ar gyfer monitro â lloeren, sef darpariaeth y gellir dwyn achos mewn perthynas â hi mewn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd adran 30(2A) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981(14);

(2Yn y Gorchymyn hwn mae unrhyw gyfeiriad at goflyfr, datganiad, dogfen neu wybodaeth a fynnwyd yn cynnwys, yn ogystal â choflyfr, datganiad, dogfen neu wybodaeth a fynnwyd mewn ysgrifen –

(i)unrhyw fap, plan, graff neu ddarlun,

(ii)unrhyw ffotograff,

(iii)unrhyw ddata, sut bynnag y'i hatgynhyrchir, a dderbynnir gan Ganolfan Monitro Pysgodfeydd o ddyfais olrhain loerennol,

(iv)unrhyw ddisg, tâp, trac sain neu ddyfais arall sy'n recordio seiniau neu ddata arall (nad ydynt yn ddelweddau gweledol) fel bod modd eu hatgynhyrchu oddi arnynt (gyda chymorth unrhyw gyfarpar arall neu hebddo), a

(v)unrhyw ffilm (gan gynnwys microffilm), negatif, tâp, disg neu ddyfais arall y mae un neu fwy o ddelweddau gweledol yn cael eu recordio arnynt fel bod modd eu hatgynhyrchu oddi arnynt (fel y dywedwyd uchod).

(3Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at un o offerynnau'r Gymuned yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw ac unrhyw ddiwygiad i'r offeryn hwnnw sydd mewn grym ar y dyddiad y gwneir y Gorchymyn hwn.

(2)

OJ Rhif L261, 20.10.93, t.1.

(3)

OJ Rhif L301, 14.12.95, t.1.

(4)

OJ Rhif L301, 14.12.95. t.35.

(5)

OJ Rhif L338, 28.12.96, t.12.

(6)

OJ Rhif L102, 19.4.97, t.1.

(7)

OJ Rhif L304, 7.11.97, t.1.

(8)

OJ Rhif L356, 31.12.97, t.14.

(9)

OJ Rhif L358, 31.12.98, t.5.

(10)

OJ Rhif L202, 30.7.97, t.18.

(11)

OJ Rhif L054, 25.2.98, t.5.

(12)

OJ Rhif L105, 22.4.99, t.20.

(13)

OJ Rhif L298, 19.11.99, t.5.

(14)

A fewnosodwyd gan Orchymyn Deddf yr Alban 1998 (Addasiadau Canlyniadol) (Rhif 2) 1999 (O.S. 1999/1820).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources