Search Legislation

Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cymunedol ynghylch Cwotâu a Physgota gan Drydydd Gwledydd) (Cymru) 2000

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn:—

  • ystyr “cwch pysgota Albanaidd” (“Scottish fishing boat”) yw cwch pysgota a gofrestrwyd ar y gofrestr a gedwir o dan adran 8 o Ddeddf Llongau Masnachol 1995(1) ac y mae ei fanylion yn y gofrestr yn pennu porthladd yn yr Alban fel y porthladd y dylid ei drin fel y porthladd y mae'r cwch yn perthyn iddo;

  • ystyr “cwch pysgota Prydeinig perthnasol” (“relevant British fishing boat”) yw cwch pysgota nad yw'n gwch pysgota Albanaidd sydd wedi ei gofrestru yn y Deyrnas Unedig o dan Ran II o Ddeddf Llongau Masnachol 1995 neu a berchenogir yn gyfan gwbl gan bersonau sy'n gymwysedig i berchenogi llongau Prydeinig at ddibenion y rhan honno o'r Ddeddf honno;

  • ystyr “cwch pysgota trydedd wlad” (“third country fishing boat”) yw cwch pysgota sy'n cyhwfan baner gwladwriaeth nad yw'n Aelod-wladwriaeth o'r Gymuned Ewropeaidd ac sydd wedi ei gofrestru ynddi;

  • ystyr “darpariaeth Gymunedol benodedig” (“specified Community provision”) yw un o ddarpariaethau Rheoliad y Cyngor a bennir yng ngholofn 1 o Atodlenni 1 a 2 i'r Gorchymyn hwn fel y'i darllenir gydag unrhyw eiriau amodi sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth honno yn y golofn honno;

  • dehonglir “y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru” (“the territorial sea adjacent to Wales”) yn unol ag Erthygl 6 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999(2) ac Atodlen 3 iddo;

  • ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (CE) Rhif 2742/1999(3) sy'n sefydlu ar gyfer 2000 y cyfleoedd pysgota ac amodau cysylltiedig ar gyfer rhai stociau o bysgod a grwpiau o stociau o bysgod, sy'n gymwys yn nyfroedd y Gymuned ac, i gychod y Gymuned, mewn dyfroedd lle mae angen cyfyngu ar yr haldiadau ac yn diwygio Rheoliad (CE) Rhif 66/98;

  • ystyr “Rheoliad y Cyngor 2847/93” (“Council Regulation 2847/93”) yw Rheoliad y Cyngor (CEE) Rhif 2847/93(4) a sefydlodd gyfundrefn reoli gymwys i'r polisi pysgodfeydd cyffredin fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Cyngor (CE) Rhif 2870/95(5), Penderfyniad y Cyngor (CE) 95/528(6), Rheoliad y Cyngor (CE) 2489/96(7), Rheoliad y Cyngor (CE) 686/97(8), Rheoliad y Cyngor (CE) 2205/97(9), Rheoliad y Cyngor (CE) 2635/97(10) a Rheoliad y Cyngor (CE) 2846/98(11); ac

  • ystyr “tramgwydd perthnasol” (“relevant offence”) yw tramgwydd o dan:

    (a)

    erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn; neu

    (b)

    unrhyw ddarpariaeth mewn gorchymyn sy'n ymestyn i unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig a wneir at ddibenion gweithredu darpariaeth Gymunedol benodedig, sydd yn ddarpariaeth, yn rhinwedd adran 30(2A) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981(12), y gellir cychwyn achos ynglŷn â hi mewn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig.

(2Yn y Gorchymyn hwn —

(a)mae unrhyw gyfeiriad at offeryn Cymunedol yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygiwyd ar y dyddiad y gwneir y Gorchymyn hwn;

(b)mae unrhyw gyfeiriad at goflyfr, datganiad neu ddogfen yn cynnwys, yn ogystal â choflyfr, datganiad neu ddogfen ysgrifenedig —

(i)unrhyw fap, plan, graff neu ddarlun;

(ii)unrhyw ffotograff;

(iii)unrhyw ddisg, tâp, trac sain neu ddyfais arall sy'n recordio seiniau neu ddata arall fel bod modd eu hatgynhyrchu ohono (gyda chymorth rhyw gyfarpar arall, neu hebddo);

(iv)unrhyw ffilm (gan gynnwys microffilm), negatif, tâp, disg neu ddyfais arall y mae un neu fwy o ddelweddau gweledol yn cael eu recordio arno fel bod modd eu hatgynhyrchu oddi arnynt (yn yr un modd ag uchod); a

(v)unrhyw ddata, sut bynnag y caiff ei atgynhyrchu, a gyflëir drwy gyfrwng system monitro cychod wedi ei seilio ar loeren a sefydlir o dan Erthygl 3.1 o Reoliad y Cyngor 2847/93.

(3Rhaid peidio â darllen colofn 2 o Atodlenni 1 a 2 (sy'n darparu gwybodaeth ynglŷn â phwnc y ddarpariaeth mewn perthynas â phob darpariaeth Gymunedol benodedig) mewn ffordd fydd yn cyfyngu cwmpas unrhyw ddarpariaeth Gymunedol benodedig a rhaid ei diystyru mewn perthynas ag unrhyw gwestiwn sy'n codi ynglŷn â dehongli'r Gorchymyn hwn.

(4At ddibenion y gwaharddiad a gynhwysir ym mharagraff 2 o Atodiad IV i Reoliad y Cyngor:

(a)yr harbyrau lle y caiff cwch pysgota lanio haldiadau o bysgod sy'n cynnwys penwaig heb eu didoli yw'r harbyrau hynny yng Nghymru neu o fewn y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru sydd â systemau samplo y mae swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig yn penderfynu eu bod yn ddigonol at lanio haldiad o'r fath;

(b)wrth wneud penderfyniad o'r fath, rhaid i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig roi sylw i gyfanswm maint a nodweddion yr haldiad;

(c)dim ond ar ôl cais gan feistr cwch pysgota i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig yn yr harbwr hwnnw cyn glanio'r haldiad y caiff swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig wneud penderfyniad o'r fath; ac

(ch)rhaid i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig roi gwybod i feistr cwch pysgota am unrhyw benderfyniad o'r fath.

(3)

OJ Rhif L341, 31.12.99, t.1.

(4)

OJ Rhif L261, 20.10.93.

(5)

OJ Rhif L301, 14.12.95, t.1.

(6)

OJ Rhif L301, 14.12.95, t.35.

(7)

OJ Rhif L338, 28.12.96, t.12.

(8)

OJ Rhif L102, 19.4.97, t.1.

(9)

OJ Rhif L304, 7.11.97, t.1.

(10)

OJ Rhif L356, 31.12.97, t.14.

(11)

OJ Rhif L358, 31.12.98, t.5.

(12)

A fewnosodwyd gan Orchymyn Deddf yr Alban 1998 (Addasiadau Canlyniadol) (Rhif 2) 1999 (O.S. 1999/1820).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources