xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Caiff Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru ar gyfer gwyddoniaeth ei ddiwygio o 1 Awst 2000 ymlaen. Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi effaith gyfreithiol i raglenni astudio newydd, sy'n nodi beth ddylid ei addysgu i ddisgyblion, ac yn gosod targedau cyrhaeddiad iddynt. Rhoddir y manylion amdanynt mewn dogfen o'r enw “Gwyddoniaeth yn y Cwricwlwm Cenedlaethol” sydd ar gael gan Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru. Yn ôl y gofyn gan adran 356(9) o Ddeddf Addysg 1996, mae'r Gorchymyn yn darparu nad yw'r rhaglenni astudio a nodir yn y ddogfen i gynnwys y materion a bennir yn erthygl 3(2).

Mae'r Gorchymyn hefyd yn nodi'r trefniadau i gyflwyno'r Cwricwlwm Cenedlaethol newydd fesul rhan.

Mae'r Gorchymyn yn disodli Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Gwyddoniaeth) (Cymru) 1995.