Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  

(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cyfalaf Cychwynnol) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 31 Mawrth 2000.

(2Bydd y Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

Cyfalaf Cychwynnol Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol

2.  Cyfalaf cychwynnol ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol a bennir yng ngholofn 1 o'r Atodlen fydd y swm a bennir gyferbyn â hi yng ngholofn 2 o'r Atodlen.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(1).

D. Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

30 Mawrth 2000

Cydsyniwn,

Clive Betts

Bob Ainsworth

Dau o Arglwydd Gomisiynwyr Trysorlys Ei Mawrhydi

31 Mawrth 2000