Enwi, cychwyn a chymhwyso
1. –
(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cyfalaf Cychwynnol) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 31 Mawrth 2000.
(2) Bydd y Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
Cyfalaf Cychwynnol Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol
2. Cyfalaf cychwynnol ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol a bennir yng ngholofn 1 o'r Atodlen fydd y swm a bennir gyferbyn â hi yng ngholofn 2 o'r Atodlen.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(1).
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
30 Mawrth 2000
Cydsyniwn,
Clive Betts
Bob Ainsworth
Dau o Arglwydd Gomisiynwyr Trysorlys Ei Mawrhydi
31 Mawrth 2000