Offerynnau Statudol Cymru
GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Wedi'i wneud
31 Mawrth 2000
Yn dod i rym
31 Mawrth 2000
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan adran 9(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990(1) a phob pŵ er arall sy'n galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol yn hyn o beth, ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), gyda chydsyniad y Trysorlys(3), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1990 p.19. Diwygiwyd adran 9 (1) gan adran 15 o'r Ddeddf Iechyd 1999 (p.8).
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 9 (1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (“Deddf 1990”) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672) (“y Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau”).
Gweler adran 9(8) o Ddeddf 1990. Mae'r cydsyniad y mae ei angen oddi wrth y Trysorlys wedi'i gadw yn unswydd gan Atodlen 1 i'r Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau.