2000 Rhif 1142 (Cy.80)
Gorchymyn Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cyfalaf Cychwynnol) (Cymru) 2000
Wedi'i wneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan adran 9(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 19901 a phob pŵ er arall sy'n galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol yn hyn o beth, ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru2, gyda chydsyniad y Trysorlys3, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
–
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cyfalaf Cychwynnol) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 31 Mawrth 2000.
2
Bydd y Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
Cyfalaf Cychwynnol Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol2
Cyfalaf cychwynnol ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol a bennir yng ngholofn 1 o'r Atodlen fydd y swm a bennir gyferbyn â hi yng ngholofn 2 o'r Atodlen.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984.
Cydsyniwn,
Adran 2
Colofn 1 | Colofn 2 |
---|---|
YMDDIRIEDOLAETH GIG | CYFLAF CYCHWYNNOL |
Bro Morgannwg | £94,389,000 |
Cymunedol Caerdydd a'r Cylch | £36,319,000 |
Sir Gaerfyrddin | £42,707,000 |
Conwy a Sir Ddinbych | £71,828,000 |
Gofal Iechyd Gwent | £176,884,000 |
Gogledd-ddwyrain Cymru | £75,685,000 |
Gogledd-orllewin Cymru | £82,799,000 |
Pontypridd a Rhondda | £89,435,000 |
Abertawe | £141,884,000 |
Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Llandoche | £150,199,000 |
Gwasanaethau Ambiwlans Cymru | £19,901,000 |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)