xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2000 Rhif 1142 (Cy.80)

GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cyfalaf Cychwynnol) (Cymru) 2000

Wedi'i wneud

31 Mawrth 2000

Yn dod i rym

31 Mawrth 2000

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan adran 9(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990(1) a phob pŵ er arall sy'n galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol yn hyn o beth, ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), gyda chydsyniad y Trysorlys(3), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  

(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cyfalaf Cychwynnol) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 31 Mawrth 2000.

(2Bydd y Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

Cyfalaf Cychwynnol Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol

2.  Cyfalaf cychwynnol ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol a bennir yng ngholofn 1 o'r Atodlen fydd y swm a bennir gyferbyn â hi yng ngholofn 2 o'r Atodlen.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).

D. Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

30 Mawrth 2000

Cydsyniwn,

Clive Betts

Bob Ainsworth

Dau o Arglwydd Gomisiynwyr Trysorlys Ei Mawrhydi

31 Mawrth 2000

Adran 2

Colofn 1Colofn 2
YMDDIRIEDOLAETH GIGCYFLAF CYCHWYNNOL
Bro Morgannwg£94,389,000
Cymunedol Caerdydd a'r Cylch£36,319,000
Sir Gaerfyrddin£42,707,000
Conwy a Sir Ddinbych£71,828,000
Gofal Iechyd Gwent£176,884,000
Gogledd-ddwyrain Cymru£75,685,000
Gogledd-orllewin Cymru£82,799,000
Pontypridd a Rhondda£89,435,000
Abertawe£141,884,000
Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Llandoche£150,199,000
Gwasanaethau Ambiwlans Cymru£19,901,000

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn penderfynu swm cyfalaf gwreiddiol rhai ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlwyd o dan y Ddeddf honno, sef cyfalaf gwreiddiol y darperir ar ei gyfer yn adran 9 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990.

(1)

1990 p.19. Diwygiwyd adran 9 (1) gan adran 15 o'r Ddeddf Iechyd 1999 (p.8).

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 9 (1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (“Deddf 1990”) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672) (“y Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau”).

(3)

Gweler adran 9(8) o Ddeddf 1990. Mae'r cydsyniad y mae ei angen oddi wrth y Trysorlys wedi'i gadw yn unswydd gan Atodlen 1 i'r Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau.