xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2000 Rhif 1155 (Cy.86)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Daearyddiaeth) (Cymru) 2000

Wedi'i wneud

10 Ebrill 2000

Yn dod i rym

1 Awst 2000

Cyflawnwyd y gofynion a nodir yn yr Atodlen.

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 356(2)(a) a (b) a (4) o Ddeddf Addysg 1996(1) ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chwmpas

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Daearyddiaeth) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 1 Awst 2000.

(2Yn y Gorchymyn hwn—

(3Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i ysgolion yng Nghymru'n unig.

Diddymu

2.  Diddymir Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Daearyddiaeth) (Cymru) 1998(5).

Pennu targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio

3.  Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn cyfarwyddo bod y darpariaethau ynglŷn â thargedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio a nodir yn y Ddogfen i gael effaith i'r diben o bennu'r targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio ynglŷn â daearyddiaeth.

4.  Nid yw'r enghreifftiau a italeiddiwyd yn y Ddogfen (er mwyn dangos y rhaglenni astudio a ddisgrifir ynddi) yn ffurfio rhan o'r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn.

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6)

D. Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

10 Ebrill 2000

ATODLENGOFYNION O DAN ADRAN 368 O DDEDDF ADDYSG 1996(7)

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Caiff Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru ar gyfer daearyddiaeth ei ddiwygio o 1 Awst 2000 ymlaen. Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi effaith gyfreithiol i raglenni astudio newydd, sy'n nodi beth ddylid ei addysgu i ddisgyblion, ac yn gosod targedau cyrhaeddiad iddynt. Rhoddir y manylion amdanynt mewn dogfen o'r enw “Daearyddiaeth yn y Cwricwlwm Cenedlaethol” sydd ar gael gan Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru.

Mae'r Gorchymyn yn disodli Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Daearyddiaeth) (Cymru) 1998.

(1)

1996 p.56. Diwygiwyd adran 356(4) gan baragraff 87(a) o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31).

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 356 o Ddeddf Addysg 1996 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(3)

Sefydlwyd Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru gan adran 14(1)(b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p.40), parhaodd mewn bodolaeth yn rhinwedd adran 360 o Ddeddf Addysg 1996 a rhoddwyd ei enw cyfredol iddo gan adran 27(1) o Ddeddf Addysg 1997.

(4)

ISBN 07504 24087

(7)

1996 p.56. Diwygiwyd adran 368 gan baragraff 28 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 (p.44). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 368 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(8)

O dan adran 23(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38) caiff y Cynulliad Cenedlaethol barhau gydag unrhyw beth a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn cysylltiad â swyddogaethau a freiniwyd ynddo gynt a bydd yn cael effaith fel pe bai wedi'i wneud gan y Cynulliad Cenedlaethol.