RHAN 1RHAGARWEINIOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Diwydiant Cyflenwi Trydan (Gwerthoedd Ardrethol) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 1 Ebrill 2000.

2

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig.

Dehongli2

Yn y Gorchymyn hwn —

  • ystyr “blwyddyn” (“year” ) yw blwyddyn ariannol daladwy ;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988;

  • ystyr “gallu cynhyrchu net a ddatgenir” (“declared net capacity”), mewn perthynas â pheiriannau cynhyrchu yw'r cynhyrchiad uchaf o drydan (wrth y terfynellau cynhyrchu) y gellir ei gynnal am gyfnod amhenodol, o dan yr amodau perthnasol, heb achosi niwed i'r peiriannau, gan dynnu o'r gallu cynhyrchu hwnnw yr hyn a ddefnyddir gan y peiriannau, ac a fynegir mewn megawatiau hyd at y ganfed ran agosaf o fegawat;

  • (At ddibenion y diffiniad hwn ar gyfer y peiriannau cynhyrchu hynny a'u hunig neu eu prif ffynhonnell ynni yw drwy losgi olew neu lo, yr amodau perthnasol yw bod y dŵ r sy'n mynd i'r system oeri yn un deg naw gradd Celsius os caiff y dŵ r oeri ei gylchredeg ar yr hereditament i'w ailddefnyddio yn y system oeri, neu ym mhob achos arall deg gradd Celsius.

  • Ar gyfer peiriannau cynhyrchu a'u hunig neu eu prif ffynhonnell ynni yw gwynt, mae cyflymder y gwynt yn ddigon i yrru'r peiriannau cynhyrchu ar eu cynhyrchiad uchaf o drydan.

  • Ar gyfer peiriannau cynhyrchu a'u hunig neu eu prif ffynhonnell ynni yw dŵ r, mae llif y dŵ r yn ddigon i yrru'r peiriannau cynhyrchu ar eu cynhyrchiad uchaf o drydan.

  • Ar gyfer pob math arall ar beiriannau cynhyrchu yr amodau perthnasol yw, bod tymheredd yr awyr yn lleoliad yr hereditament yn ddeg gradd Celsius ac mae gwasgedd yr aer yn 1013mbar); ac

  • ystyr “peiriannau cynhyrchu” (“generating plant”), mewn perthynas â hereditament, yw peiriannau yn yr hereditament neu arno a ddefnyddir neu sydd ar gael ar gyfer eu defnyddio i'r diben o gynhyrchu trydan.

Talgrynnu Rhifau3

Pan (ar wahân i'r erthygl hon) fydd unrhyw werth ardrethol y penderfynir arno o dan y Gorchymyn hwn yn cynnwys ffracsiwn o bunt—

a

rhaid talgrynnu'r ffracsiwn i un bunt os bydd yn fwy na 50c, a

b

rhaid anwybyddu'r ffracsiwn os bydd yn 50c neu'n llai.

Diddymiadau ac Eithriadau4

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), diddymir drwy hyn y canlynol gydag effaith o 1 Ebrill 2000 i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru:

a

Gorchymyn Cynhyrchwyr Trydan (Gwerthoedd Ardrethol) 19943;

b

Gorchymyn Diwydiant Cyflenwi Trydan (Gwerthoedd Ardrethol) (Diwygio) 19954;

c

erthygl 2 o Orchymyn Diwydiant Cyflenwi Trydan ac Ymgymerwyr Dŵ r (Gwerthoedd Ardrethol) (Diwygio) 19965 a'r gyfran honno o erthygl 1 sy'n cael effaith i ddibenion erthygl 2.

2

Bydd y Gorchmynion a grybwyllir ym mharagraff 1 yn parhau i gael effaith ar 1 Ebrill 1995 neu wedyn at ddibenion y canlynol neu at ddibenion sy'n gysylltiedig â'r canlynol—

a

unrhyw newid i restr a luniwyd cyn 1 Ebrill 2000; neu

b

unrhyw ddarpariaeth a wnaed gan reoliadau a wnaed o dan adran 58 o'r Ddeddf6 (darpariaeth arbennig ar gyfer 1995 ac ymlaen) ynglŷn â'r swm taladwy o ran hereditament am gyfnod perthnasol fel y'i diffinnir yn yr adran honno.

RHAN IICYNHYRCHU TRYDAN

Gwerth Ardrethol

5

1

Mae erthygl 6 yn gymwys i ddosbarth ar hereditamentau y mae'r amodau ym mharagraff (2) wedi'u cyflawni yn eu cylch.

2

Yr amodau a grybwyllir ym mharagraff (1) yw bod —

a

yr hereditament yn cynnwys tir, peiriannau neu adeiladau a ddefnyddir at gynhyrchu trydan, neu sydd ar gael i gynhyrchu trydan a bod y defnydd hwnnw yn unig neu'n brif swyddogaeth yr hereditament a

b

y peiriannau cynhyrchu naill ai —

i

yn defnyddio pŵ er gwynt, llanw, neu ddŵ r fel eu prif ffynhonnell ynni; neu

ii

a chanddynt allu cynhyrchu net a ddatgenir o 500 cilowat neu ragor.

3

Wrth benderfynu ai cynhyrchu trydan yw prif swyddogaeth hereditament, rhaid peidio â chymryd sylw o hyn o wres a gynhyrchir yn yr hereditament neu arno ac a gynhyrchir at ddibenion nad ydynt yn ddibenion cynhyrchu trydan.

6

1

Yn achos hereditament sy'n dod o fewn y dosbarth a bennir yn erthygl 5, ni fydd paragraffau 2 i 2B o Atodlen 6 i'r Ddeddf7 yn gymwys, a bydd ei werth ardrethol, yn ystod unrhyw flwyddyn, pan fydd effaith i'r rhestr berthnasol, yn swm cyfartal â'r swm cymwysadwy.

2

Y “swm cymwysadwy” at ddibenion paragraff (1) yw'r swm fesul megawat o allu cynhyrchu net a ddatgenir o'r peiriannau cynhyrchu yn yr hereditament neu arno (wedi'i fynegi i'r ganfed ran agosaf o fegawat) wedi'i nodi yng ngholofn (2) o'r Tabl canlynol mewn perthynas â'r unig ffynhonnell ynni, neu'r brif ffynhonnell ynni, a ddefnyddir gan y peiriannau llywodraethu hynny a nodir yng ngholofn (1):

TABL

(1)

(2)

Unig neu brif ffynhonnell ynni

£ fesul megawat

i

Llosgi glo

9,500

ii

Llosgi olew

5,000

iii

Llosgi nwy naturiol pan ddefnyddir tyrbin ager

9,500

iv

Llosgi nwy naturiol pan na ddefnyddir tyrbin ager

5,000

v

Ymhollti Niwclear a gynhyrchir gan adweithydd Magnox

6,000

vi

Ymhollti Niwclear na chynhyrchir gan adweithydd Magnox.

14,000

vii

Pŵ er Gwynt

2,000

viii

Llosgi nwy o safleoedd tirlenwi

5,000

ix

Llosgi cnydau a gwasarn anifeiliaid

2,000

x

Dwr wedi'i gronni a'i bwmpio

12,800

xi

Trydan dŵ r

9,500

xii

Unrhyw ffynhonnell o ynni nas rhestrir uchod.

2,000

3

Yn yr erthygl hon ystyr “y rhestr berthnasol” yw'r rhestr ardrethu annomestig leol a luniwyd ar 1 Ebrill 2000.

RHAN IIICYNHYRCHU TRYDAN, TROSGLWYDDO A CHYFLENWI: RHESTRI CANOLOG

Dehongli7

1

Yn y Rhan hon —

  • ystyr “blwyddyn berthnasol” (“relevant year”) yw unrhyw flwyddyn y mae gwerth ardrethol i'w phenderfynu yn unol â'r Gorchymyn hwn ac

  • ystyr “blwyddyn berthnasol flaenorol” (“relevant preceding year”) yw'r flwyddyn sy'n rhagflaenu blwyddyn berthnasol;

  • ystyr “dosbarth ar hereditamentau” (“class of hereditaments”) yw hyn o hereditamentau sydd i'w dangos ar y rhestr ardrethu ganolog i Gymru yn rhinwedd rheoliad 3(1) o'r Atodlen i Reoliadau'r Rhestr Ganolog a Rhan 2 ohoni ac a feddiennir gan unrhyw berson dynodedig a enwir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn;

  • ystyr “ffactor ailgyfrifo” (“recalculation factor”) mewn perthynas â dosbarth ar hereditamentau yw'r ffactor y penderfynir arno mewn perthynas â'r dosbarth hwnnw yn unol ag erthygl 9 neu 10, fel y bo'r achos;

  • ystyr “fformwla safonol” (“standard formula”) mewn perthynas â dosbarth o hereditamentau yw'r fformwla

    T+Umath

    lle —

    • T yw'r swm a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn mewn perthynas â'r dosbarth hwnnw; a

    • U yw'r ffactor ailgyfrifo cymwysadwy i'r dosbarth hwnnw mewn perthynas â'r flwyddyn berthnasol.

  • ystyr “person dynodedig” (“designated person”) yw person a ddynodir gan reoliad 3(1) o Ran 2 o'r Atodlen i Reoliadau'r Rhestri Canolog ac a enwir ynddi;

  • ystyr “Rheoliadau'r Rhestr Ganolog” (“Central List Regulations”) yw Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 19998; ac

  • ystyr “y rhestr ganolog” (“the central list”) yw'r rhestr ardrethu annomestig ganolog i Gymru a luniwyd ar 1 Ebrill 2000.

2

Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon at hereditamentau a feddiennir gan berson yn cynnwys cyfeiriad, yn achos hereditamentau nas meddiennir, at hereditamentau a berchnogir gan y person hwnnw, a dehonglir cyfeiriadau at feddiannu yn unol â hynny.

3

Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon neu yn yr Atodlen at berson dynodedig wrth ei enw yn gyfeiriad at y cwmni sy'n dwyn yr enw hwnnw ar y dyddiad y cofnodwyd yr enw ar y rhestr ganolog.

Gwerthoedd Ardrethol8

Yn achos pob dosbarth ar hereditament, ni fydd paragraffau 2 i 2B o Atodlen 6 i'r Ddeddf yn gymwys mewn unrhyw flwyddyn pan fydd y rhestr ganolog mewn grym ac

a

yn y flwyddyn sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2000 y swm a bennir ar ei gyfer yn yr Atodlen fydd y gwerth ardrethol; ac

b

mewn unrhyw flwyddyn arall sy'n dechrau ar neu cyn 1 Ebrill 2004 y swm a geir drwy ddefnyddio'r fformwla safonol ar gyfer y dosbarth hwnnw fydd y gwerth ardrethol.

Hereditamentau Trosglwyddo: Y Ffactor Ailgyfrifo9

Ar gyfer pob dosbarth ar hereditament a restrir yn Rhan A o'r Atodlen, y ffigur a geir ar gyfer y dosbarth hwnnw drwy ddefnyddio'r fformwla ganlynol fydd y ffactor ailgyfrifo mewn perthynas â blwyddyn berthnasol –

T(k-KK)math

lle—

  • T yw'r swm a bennir ar gyfer y dosbarth hwnnw yn yr Atodlen;

  • k yw nifer amcangyfrifedig y cilometrau mewn cylched o brif linellau trosglwyddo a feddiannwyd gan y person dynodedig yn achos y dosbarth hwnnw ar 31 Mawrth yn y flwyddyn flaenorol berthnasol; a

  • K yw nifer amcangyfrifedig y cilometrau mewn cylched o brif linellau trosglwyddo a feddiennir gan y person hwnnw ar 31 Mawrth 2000.

Hereditamentau Dosbarthu: Y Ffactor Ailgyfrifo10

Ar gyfer pob dosbarth ar hereditament a restrir yn Rhan B o'r Atodlen, y ffigur a geir ar gyfer y dosbarth hwnnw drwy ddefnyddio'r fformwla ganlynol yw'r ffactor ailgyfrifo mewn perthynas â blwyddyn berthnasol —

T(v-VV)math

lle —

  • T yw'r swm a bennir ar gyfer y dosbarth hwnnw yn yr Atodlen;

  • v yw'r amcangyfrif o allu'r newidydd gosodedig i gynhyrchu (wedi'i fesur mewn cilofolt-amperau) o'r holl beiriannau newid trydan a feddiannwyd gan y person dynodedig yn achos y dosbarth hwnnw ar 31 Mawrth yn y flwyddyn flaenorol berthnasol; a

  • V yw'r amcangyfrif o allu'r newidydd gosodedig i gynhyrchu (wedi'i fesur mewn cilofolt-amperau) o'r peiriannau hynny ar 31 Mawrth 2000.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19989;

D. Elis ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol