Offerynnau Statudol Cymru
2000 Rhif 1735 (Cy. 119 )
TAI, CYMRU
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig a Ffurflen a Manylion Cymraeg) (Diwygio) (Cymru) 2000
Wedi'u gwneud
20 Mehefin 2000
Yn dod i rym yn unol â Rheoliad 1(1)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 2(2) a (4) a 146(1) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (1) fel y'u hestynnwyd gan adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993(2) ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru(3).
(1)
1996 p.53. I gael y diffiniad o “prescribed” gweler adran 101 o'r Ddeddf.
(2)
(3)
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).