Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig a Ffurflen a Manylion Cymraeg) (Diwygio) (Cymru) 2000

16.  Yn nodyn 85, ar ôl “Groes George” mewnosodwch —

  • lwfans cynhaliaeth addysgol sy'n daladwy yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan adran 518 o Ddeddf Addysg 1996 (talu costau ysgol; rhoi ysgoloriaethau etc.) neu unrhyw swm mewn perthynas â chwrs astudiaeth a ddilynir gan blentyn neu berson ifanc sy'n daladwy yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan adran 518 o Ddeddf Addysg 1996, adran 49 o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980 (pŵ er i gynorthwyo personau i fanteisio ar gyfleusterau addysgol) neu adran 12(2)(c) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (Yr Alban) 1992 (darparu cymorth ariannol i fyfyrwyr).