Enwi, cychwyn a dehongli1

1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pwnc Sylfaen (Diwygio) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 20 Gorffennaf 2000.

2

Yn y Gorchymyn hwn—

  • Ystyr “yr Awdurdod” (“the Authority”) yw Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru)3;

  • Ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru; ac

  • Ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysg 1996.

Diwygio

2

Ac eithrio i'r graddau y datganwyd y byddant yn cael effaith yn Lloegr yn unig, bydd i'r diwygiadau i adrannau 354 a 580 o'r Ddeddf fel a nodwyd yng Ngorchymyn Pynciau Craidd (Diwygio) (Lloegr) 20004h), effaith yng Nghymru yn ddarostyngedig i'r diwygiadau pellach a nodir yn erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn.

3

Mae'r diwygiadau pellach y cyfeirir atynt yn erthygl 2 fel a ganlyn —

a

yn is-adran (4) fel y'i hamnewidwyd, yn lle paragraff (b) rhoddir –

b

in relation to schools in Wales, means a modern foreign language specified in an order of the National Assembly for Wales or, if the order so provides, any modern foreign language.

b

yn is-adran (5) fel y'i hamnewidwyd ar ôl “(4)(a)” mewnosoder “or (b)”.

4

Gwelir testun adran 354(1) i (5) o'r Ddeddf fel y'i diwygiwyd gan y Gorchymyn y cyfeirir ato yn erthygl 2 ac fel y'i diwygir ymhellach gan y Gorchymyn hwn, yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn.

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19985

Dafydd Elis ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol