(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. Maent yn diwygio —

a

Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Hylendid) 1994 (O.S. 1994/3082, fel y'u diwygiwyd); a

b

Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Tarddu o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio 1996 (O.S. 1996/3124)

yn y naill achos a'r llall i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru (mae O.S. 1994/3082 ac O.S. 1999/3124 ill dau yn gymwys i Brydain Fawr gyfan).

2

Effaith y diwygiadau uchod yw caniatáu trydydd dull o baratoi bwydydd parod ar sail cig o 31 Gorffennaf 2000 ymlaen yn unol â phwynt 2(a) o Bennod IX o Atodiad B i Gyfarwyddeb y Cyngor 77/99/EEC (a fewnosodwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 95/68/EC, OJ Rhif L332, 30.12.95, t.10).