Search Legislation

Rheoliadau Bwydydd a Addaswyd yn Enetig a Bwydydd Newydd (Labelu) (Cymru) 2000

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn.—

  • mae “bisgedi” (“biscuits”) yn cynnwys wafferi, bisgedi caled, torthau ceirch a bara croyw;

  • mae i “bwyd newydd”, “cynhwysyn bwyd newydd” a “lle ar y farchnad” yr un ystyr â “novel food”, “novel food ingredient” a “place on the market” yn Rheoliad 258/97;

  • ystyr “Cyfarwyddeb 79/112” (“Directive 79/112”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 79/112/CEE(1) ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau ynglŷn â labelu, cyflwyno a hysbysebu bwydydd, fel y'i diwygiwyd (i'r graddau y mae'n berthnasol i'r Rheoliadau hyn) gan Gyfarwyddeb y Cyngor 86/197/CEE(2) a Chyfarwyddeb y Cyngor 89/395/CEE(3);

  • ystyr “cyffaith blawd” (“flour confectionery”) yw unrhyw fwyd wedi'i goginio sy'n barod i'w fwyta heb ei baratoi ymhellach (heblaw ei aildwymo), y mae grawnfwyd mâl yn gynhwysyn sy'n nodweddiadol ohono, gan gynnwys teisennau brau, sbwnjis, cramwyth, myffins, macarŵns, rataffias, toes a chasys toes ac mae'n cynnwys hefyd meringues, petits fours a thoes a chasys toes sydd heb eu coginio, ond nid yw'n cynnwys bara, pizzas, bisgedi, bara crimp, bara gwastad allwthiedig nac unrhyw fwyd sy'n cynnwys llenwad y mae unrhyw gaws, cig, syrth, pysgod, pysgod cregyn, deunydd protein llysieuol neu ddeunydd protein microbig yn gynhwysyn ynddo;

  • ystyr “cynnyrch cyffeithiol” (“confectionery product”) yw unrhyw eitem o gyffaith siocled neu gyffaith siwgr;

  • ystyr “cynnyrch cyffeithiol ffansi” (“fancy confectionery product”) yw unrhyw gynnyrch cyffeithiol ar ffurf ffigur, anifail, sigarèt neu wy neu ar unrhyw ffurf ffansi arall;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

  • mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys cynnig i'w werthu neu ddangos i'w werthu neu ei gael mewn meddiant i'w werthu, a dehonglir “gwerthu” (“sale”) yn unol â hynny.

  • mae “iâ bwytadwy” (“edible ice”) yn cynnwys hufen iâ, iâ dwr ac iâ ffrwythau, p'un ai ar ei ben ei hun neu mewn cyfuniad ag unrhyw fwyd tebyg;

  • ystyr “manylion GMO” (“the GMO particulars”) yw'r manylion labelu penodol ychwanegol a fynnir gan Erthygl 2(3) o Reoliad 1139/98 ac Erthyglau 2 a 4 o Reoliad 50/2000;

  • mae “paratoi” (“preparation”), mewn perthynas â bwyd, yn cynnwys gweithgynhyrchu ac unrhyw ffurf ar brosesu neu drin, a dehonglir “wedi'i baratoi” yn unol â hynny;

  • ystyr “Rheoliad 258/97” (“Regulation 258/97”) yw Rheoliad Senedd Ewrop a'r Cyngor (CE) Rhif 258/97 (4)) ynghylch bwydydd newydd a chynhwysion bwyd newydd;

  • ystyr “Rheoliad 1139/98” (“Regulation 1139/98”) yw Rheoliad y Cyngor (CE) Rhif 1139/98(5) (fel y'i cywirwyd(6)) ynghylch gorfod dangos, ar labelau bwydydd penodol a gynhyrchwyd o organeddau a addaswyd yn enetig, fanylion heblaw'r rhai y darperir ar eu cyfer yng Nghyfarwyddeb 79/112/CEE, fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (CE) Rhif 49/2000 (7);

  • ystyr “Rheoliad 50/2000” (“Regulation 50/2000”) yw Rheoliad y Comisiwn (CE) Rhif 50/2000(8)) ar labelu bwydydd a chynhwysion bwyd sy'n cynnwys ychwanegion a chyflasynnau a addaswyd yn enetig neu wedi'u cynhyrchu o organeddau a addaswyd yn enetig;

  • ystyr “wedi'i ragbacio i'w werthu'n uniongyrchol” (“prepacked for direct sale”)

    (a)

    mewn perthynas â bwyd heblaw cyffaith blawd, bara ac iâ bwytadwy, yw wedi'i ragbacio gan fanwerthwr er mwyn i'r manwerthwr hwnnw ei werthu ar y safle lle mae'r bwyd yn cael ei bacio neu o gerbyd neu o stondin a ddefnyddir gan y manwerthwr hwnnw, a

    (b)

    mewn perthynas â chyffaith blawd, bara ac iâ bwytadwy, yw wedi'i ragbacio gan fanwerthwr i'w werthu fel yn is-baragraff (a) o'r diffiniad hwn, neu wedi'i ragbacio gan gynhyrchydd y bwyd er mwyn i gynhyrchydd y bwyd ei werthu naill ai ar y safle lle cynhyrchwyd y bwyd neu ar safle arall y mae'r cynhyrchydd bwyd yn cynnal ei fusnes ohono o dan yr un enw â'r busnes sy'n cael ei gynnal ar y safle lle mae'r bwyd yn cael ei gynhyrchu.

    ac yn y diffiniad hwn mae “safle” yn cynnwys unrhyw long neu awyren.

(2Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad 1139/98 neu Rheoliad 50/2000 yr un ystyr yn y rheoliadau hyn ag sydd iddynt yn y Rheoliad o dan sylw.

(3Rhaid ystyried bod bwyd wedi'i ragbacio ar gyfer y Rheoliadau hyn

(a)os yw yn barod i'w werthu i'r prynwr terfynol neu i fasarlwyydd, a

(b)os yw

(i)wedi'i roi mewn pecyn cyn cael ei gynnig i'w werthu yn y fath ffordd ag i beidio â chaniatáu newid y bwyd, p'un ai wedi'i amgáu'n gyfan gwbl neu'n rhannol yn unig, heb agor neu newid y pecyn, neu

(ii)wedi'i amgáu'n gyfan gwbl mewn pecyn cyn cael ei gynnig i'w werthu a bwriedir iddo gael ei goginio heb agor y pecyn, ond nid yw bwyd i gael ei ystyried fel bwyd wedi'i ragbacio at ddibenion y Rheoliadau hyn os yw'n felysyn neu siocled sydd wedi'i lapio'n unigol ac sydd heb ei amgáu mewn unrhyw becyn ychwanegol ac nad yw wedi'i fwriadu i'w werthu fel eitem unigol.

(4Dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad â rhif fel cyfeiriad at y rheoliad sydd â'r rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall.

(1)

OJ Rhif L33, 8.2.79, t.1.

(2)

OJ Rhif L.144, 29.5.86, t.38.

(3)

OJ Rhif L186, 30.6.89, t.17.

(4)

OJ Rhif L43, 14, 2, 97, t.1.

(5)

OJ Rhif L159, 3.6.98, t.4.

(6)

OJ Rhif L190, 4.7.98, t.86.

(7)

OJ Rhif L6, 11.1.2000, t.13.

(8)

OJ Rhif L6, 11.1.2000, t.15.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources