CYFFREDINOL

Amddiffyniad mewn perthynas ag allforion9

Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, bydd yn amddiffyniad i'r person a gyhuddir brofi –

a

bod y bwyd yr honnir bod y tramgwydd wedi'i gyflawni mewn perthynas ag ef wedi'i fwriadu i'w allforio i wlad â deddfwriaeth sy'n cyfateb i'r Rheoliadau hyn a'i fod yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth honno; a

b

yn achos allforio i Aelod-wladwriaeth fwyd y mae Rheoliad 1139/98 neu Reoliad 50/2000 yn gymwys iddo, fod y ddeddfwriaeth yn cydymffurfio â darpariaethau Rheoliad 1139/98 neu Reoliad 50/2000, fel y bo'n briodol, fel y'u darllenir gyda Chyfarwyddeb 79/112.