- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliadau 2, 3 a 4
Sylwedd/ Lefelau Amcanion Ansawdd Aer | Y dyddiad erbyn pryd mae'n rhaid cyflawni'r amcan |
---|---|
Bensen: 16.25 microgram y metr ciwbig neu lai, o'i fynegi fel cymedr blynyddol cyfredol | 31 Rhagfyr 2003 |
1, 3 Biwtadïen: 2.25 microgram y metr ciwbig neu lai, o'i fynegi fel cymedr blynyddol cyfredol | 31 Rhagfyr 2003 |
Carbon monocsid: 11.6 miligram y metr ciwbig neu lai, o'i fynegi fel cymedr 8 awr cyfredol | 31 Rhagfyr 2003 |
Nitrogen deuocsid: 200 microgram y metr ciwbig neu lai, o'i fynegi fel cymedr yn ôl yr awr, na ellir mynd yn uwch na hynny fwy na 18 gwaith y flwyddyn | 31 Rhagfyr 2005 |
Nitrogen deuocsid: 40 microgram y metr ciwbig neu lai, o'i fynegi fel cymedr blynyddol | 31 Rhagfyr 2005 |
Plwm: 0.5 microgram y metr ciwbig neu lai, o'i fynegi fel cymedr blynyddol | 31 Rhagfyr 2004 |
Plwm: 0.25 microgram y metr ciwbig neu lai, o'i fynegi fel cymedr blynyddol | 31 Rhagfyr 2008 |
PM10: 50 microgram y metr ciwbig neu lai, o'i fynegi fel cymedr 24 awr, na ellir mynd yn uwch na hynny fwy na 35 gwaith y flwyddyn | 31 Rhagfyr 2004 |
PM10 40 microgram y metr ciwbig neu lai, o'i fynegi fel cymedr blynyddol | 31 Rhagfyr 2004 |
Sylffwr deuocsid: 125 microgram y metr ciwbig neu lai, o'i fynegi fel cymedr 24 awr na ellir mynd yn uwch na hynny fwy na 3 gwaith y flwyddyn | 31 Rhagfyr 2004 |
Sylffwr deuocsid: 350 microgram y metr ciwbig neu lai, o'i fynegi fel cymedr yn ôl yr awr, na ellir mynd yn uwch na hynny fwy na 24 gwaith y flwyddyn | 31 Rhagfyr 2004 |
Sylffwr deuocsid: 266 microgram y metr ciwbig neu lai, o'i fynegi fel cymedr 15 munud, na ellir mynd yn uwch na hynny fwy na 35 gwaith y flwyddyn | 31 Rhagfyr 2005 |
At ddibenion yr Atodlen hon:
1.—(1) Cymedr blynyddol cyfredol yw cymedr a gyfrifir yn ôl yr awr, gan ildio un cymedr blynyddol cyfredol yr awr. Y cymedr blynyddol cyfredol ar gyfer sylwedd mewn lleoliad penodol am awr benodol yw cymedr y lefelau yn ôl yr awr ar gyfer y sylwedd hwnnw yn y lleoliad hwnnw am yr awr honno a'r 8759 o oriau blaenorol.
(2) Er mwyn cyfrifo cymedr blynyddol cyfredol, y lefel yn ôl yr awr ar gyfer sylwedd mewn lleoliad penodol yw naill ai:
(a)y lefel lle cofnodir bod y sylwedd hwnnw yn bresennol yn yr aer yn y lleoliad hwnnw yn ystod yr awr ar sail sampl barhaus o aer a gymerir yn ystod yr awr honno am 30 munud o leiaf; neu
(b)cymedr y lefelau a gofnodir yn y lleoliad hwnnw ar sail 2 neu ragor o samplau o aer a gymerir yn ystod yr awr am gyfnod agregedig o 30 munud o leiaf.
2. Cymedr a gyfrifir ar sail oriau ac sy'n ildio un cymedr 8 awr cyfredol yr awr yw cymedr 8 awr cyfredol. Cymedr y cymedrau yn ôl yr awr ar gyfer sylwedd mewn lleoliad penodol am awr benodol a'r 7 awr flaenorol yw'r cymedr 8 awr cyfredol ar gyfer y sylwedd hwnnw yn y lleoliad hwnnw am yr awr honno.
3.—(1) Cymedr a gyfrifir ar sail flynyddol ac sy'n ildio un cymedr blynyddol y flwyddyn galendr yw cymedr blynyddol. Y cymedr blynyddol ar gyfer sylwedd mewn lleoliad penodol mewn blwyddyn galendr benodol yw:
(a)o ran plwm, cymedr y lefelau dyddiol ar gyfer y flwyddyn honno;
(b)o ran nitrogen deuocsid, cymedr y cymedrau yn ôl yr awr ar gyfer y flwyddyn honno; ac
(c)o ran PM10, cymedr y cymedrau 24 awr ar gyfer y flwyddyn honno;
(2) At ddibenion cyfrifo'r cymedr blynyddol ar gyfer plwm, y lefel ddyddiol ar gyfer plwm mewn lleoliad penodol ar ddiwrnod penodol yw'r lefel lle cofnodir bod plwm yn bresennol yn yr aer yn y lleoliad hwnnw yn ystod yr wythnos y digwydd y diwrnod ar sail sampl barhaus o aer a gymerir drwy gydol yr wythnos honno (gan briodoli'r un lefel ddyddiol felly i bob diwrnod o'r wythnos honno).
(3) Ystyr “PM10” yw mater gronynnol sy'n llwyddo i fynd drwy fewnfa dethol maint gyda therfyn effeithlonrwydd o 50% pan fydd y diamedr aerodynamig yn 10μm.
(4) At ddibenion is-baragraff (2) ystyr “wythnos” yw wythnos gyflawn sy'n dechrau ar ddydd Llun, ac eithrio ei bod hefyd yn cynnwys unrhyw gyfnod o lai na saith diwrnod o ddechrau'r flwyddyn galendr hyd at y dydd Llun cyntaf yn y flwyddyn honno neu o ddechrau'r dydd Llun olaf yn y flwyddyn galendr hyd at ddiwedd y flwyddyn honno.
4. Cymedr a gyfrifir bob awr yw cymedr yn ôl yr awr. Cymedr y lefelau a gofnodir, ar fynychder o nid llai nag unwaith bob 10 eiliad, ar gyfer sylwedd mewn lleoliad penodol yn ystod awr benodol yw'r cymedr yn ôl yr awr ar gyfer y sylwedd hwnnw yn y lleoliad hwnnw yn ystod yr awr honno.
5. Cymedr a gyfrifir bob 24 awr yw cymedr 24-awr. Y lefel lle cofnodir bod sylwedd yn bresennol yn yr aer mewn lleoliad penodol ar sail sampl barhaus o aer a gymerir drwy gydol y cyfnod o 24 awr yw'r cymedr 24-awr ar gyfer y sylwedd hwnnw yn y lleoliad hwnnw am y cyfnod hwnnw.
6. Cymedr a gyfrifir bob 15 munud yw cymedr 15-munud. Cymedr y lefelau a gofnodir, ar fynychder o nid llai nag unwaith bob 10 eiliad, ar gyfer sylwedd mewn lleoliad penodol yn ystod cyfnod o 15 munud yw'r cymedr 15-munud ar gyfer y sylwedd hwnnw yn y lleoliad hwnnw am y 15 munud hynny.
7. Mae'r cyfeiriad at nifer o ficrogramau neu filigramau y metr ciwbig o sylwedd yn gyfeiriad at y nifer o ficrogramau neu filigramau y metr ciwbig o'r sylwedd hwnnw o'i fesur gyda'r cyfaint wedi'i safoni ar dymheredd o 293 K ac ar bwysedd o 101.3 kPa.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: