Diwygio'r prif Reoliadau3
1
Diwygir y prif Reoliadau yn unol â'r paragraffau canlynol.
2
Yn Rheoliad 2(1), ar ôl y diffiniad o “person dynodedig” rhowch —
ystyr “Rheoliadau 1993” yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) 1993; 4
3
Yn Rheoliad 3(1), yn lle “ac 1 Ebrill 2002”, rhowch —
, 1 Ebrill 2002, 1 Ebrill 2003 a 1 Ebrill 2004.
4
Yn Rheoliad 8, ar ôl paragraff (4), rhowch —
5
Yn y blynyddoedd perthnasol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2003 a 1 Ebrill 2004, cyfrifir y swm y gellir ei godi yn unol â darpariaethau Rhan III o'r Ddeddf.
5
Yn Rheoliad 10, ar ôl paragraff (3), rhowch —
4
Os yw'r swm a geir drwy gymhwyso'r fformwla a nodir ym mharagraffau (2) a (3) yn llai na'r swm a geid drwy gyfrifo'r swm y gellir ei godi am ddosbarth perthnasol ar gyfer yr hereditament hwnnw yn unol â darpariaethau Rhan III o'r Ddeddf, y swm a gyfrifir yn unol â Rhan III o'r Ddeddf fydd y swm y gellir ei godi am ddiwrnod perthnasol ar gyfer yr hereditament hwnnw.
5
Yn y blynyddoedd perthnasol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2003 a 1 Ebrill 2004 cyfrifir y swm y gellir ei godi yn unol â darpariaethau Rhan III o'r Ddeddf.
6
Ar ôl Rheoliad 10, rhowch –
10A
Mae Rheoliad 10B yn gymwys i hereditament diffiniedig os yw'r amod yn Rheoliad 9 wedi'i fodloni ac nad yw adrannau 43(5), 43(6A) neu 45 o'r Ddeddf yn gymwys ar 31 Mawrth 2000.
10B
1
Os elusen neu ymddiriedolwyr elusen sy'n talu'r ardrethi a bod yr hereditament diffiniedig yn cael ei ddefnyddio yn gyfan gwbl neu yn bennaf at ddibenion elusennol, ceir y swm y gellir ei godi drwy rannu'r swm a gyfrifir yn unol â rheoliad 10 â 5.
2
Os yw adran 43(6B) o'r Ddeddf (siopau cyffredinol etc. mewn aneddiadau gwledig) yn gymwys mewn perthynas â'r hereditament diffiniedig, ceir y swm y gellir ei godi drwy rannu'r swm a gyfrifir yn unol â rheoliad 10 â 2.
3
Os yw'r amodau yn adran 45(1) o'r Ddeddf (eiddo nad yw wedi'i feddiannu) wedi'u bodloni mewn perthynas â'r hereditament diffiniedig, ceir y swm y gellir ei godi drwy rannu'r swm a gyfrifir yn unol â rheoliad 10 â 2, neu mewn achos lle mae adran 45(6) (hereditamentau elusennau nad ydynt wedi'i meddiannu) yn gymwys, â 10.
7
Yn Rheoliad 12(2), yn lle “2001” rhowch –“2005”.
8
Ar ôl Rheoliad 12, rhowch —
13
Pan wneir newid yn y gwerth ardrethol a ddangosir mewn rhestr ar 1 Ebrill 2000, a bod y newid hwnnw yn effeithiol o ddyddiad diweddarach yn unol â darpariaethau Rheoliad 13A(2) o Reoliadau 1993, yna bydd darpariaethau Rheoliad 11(1) yn gymwys.