- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
4.—(1) Bydd person a geir yn euog o dramgwydd o dan erthygl 3(1) o'r Gorchymyn hwn, neu o dan unrhyw ddarpariaeth gyfatebol mewn unrhyw orchymyn arall sy'n ymestyn i unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, y dygwyd achos mewn perthynas â'r tramgwydd yng Nghymru yn rhinwedd adran 30(2A) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981, yn agored —
(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na'r swm a bennir yng ngholofn 3 o'r Atodlen mewn perthynas â'r mesur Cymunedol penodedig y bu ei dorri neu fethiant i gydymffurfio ag ef yn sail i'r tramgwydd;
(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy.
(2) Bydd person a geir yn euog o dramgwydd o dan erthygl 3(2) o'r Gorchymyn hwn, neu o dan unrhyw ddarpariaeth gyfatebol mewn unrhyw orchymyn arall sy'n ymestyn i unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, y dygwyd achos mewn perthynas â'r tramgwydd yng Nghymru yn rhinwedd adran 30(2A) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981, yn agored —
(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na'r uchafswm statudol;
(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy.
(3) Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau canlynol yn yr erthygl hon, caiff y llys y caiff person ei gollfarnu am dramgwydd perthnasol ganddo neu ger ei fron orchymyn –
(a)fforffedu unrhyw bysgod y cyflawnwyd y tramgwydd mewn perthynas â hwy; a
(b)mewn perthynas â thramgwydd o dan erthygl 3(1) o'r Gorchymyn hwn, fforffedu unrhyw rwyd neu offer pysgota arall a ddefnyddiwyd wrth gyflawni'r tramgwydd.
(4) Bydd unrhyw berson a geir yn euog o dramgwydd perthnasol, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau canlynol, yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na gwerth y pysgod y cyflawnwyd y tramgwydd mewn perthynas â hwy.
(5) Ni fydd person yn agored i ddirwy o dan baragraff (4) mewn perthynas â thramgwydd perthnasol os yw'r llys, o dan baragraff (3), yn gorchymyn fforffedu'r pysgod y cyflawnwyd y tramgwydd mewn perthynas â hwy; ac os caiff dirwy ei gosod o dan baragraff (4) mewn perthynas ag unrhyw dramgwydd perthnasol, ni fydd gan y llys bŵ er o dan baragraff (3) i orchymyn fforffedu'r pysgod y cyflawnwyd y tramgwydd perthnasol mewn perthynas â hwy.
(6) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), bydd unrhyw ddirwy y mae person yn agored iddi o dan baragraff (4) mewn perthynas â thramgwydd perthnasol yn ychwanegol at unrhyw gosb arall (boed yn gosb ariannol neu fel arall) y mae'r person hwnnw'n agored iddi mewn perthynas â'r tramgwydd hwnnw o dan yr erthygl hon neu o dan unrhyw ddeddfiad arall.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: