Casglu dirwyon5

1

Pan osodir dirwy gan lys ynadon ar feistr, perchennog, siartrwr, neu aelod criw cwch pysgota a gollfernir am dramgwydd perthnasol neu dramgwydd o dan erthygl 11 o'r Gorchymyn hwn, fe gaiff y llys –

a

cyhoeddi gwarant atafaelu yn erbyn y cwch a oedd yn gysylltiedig â chyflawni'r tramgwydd, ei offer a'i haldiad ac unrhyw eiddo sydd gan y person a gollfarnwyd er mwyn casglu swm y ddirwy; a

b

gorchymyn cadw'r cwch a'i offer a'i haldiad am gyfnod heb fod yn fwy na thri mis o ddyddiad y gollfarn neu hyd nes y telir y ddirwy neu y cesglir swm y ddirwy yn unol ag unrhyw warant o'r fath, p'un bynnag fydd yn digwydd gyntaf.

2

Bydd adrannau 77(1) a 78 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 198014 (gohirio cyhoeddi gwarantau atafaelu, a diffygion ynddynt) yn gymwys i warant atafaelu a gyhoeddir o dan yr erthygl hon fel y maent yn gymwys i warant atafaelu a gyhoeddir o dan Ran III o'r Ddeddf honno.

3

Pan fydd gorchymyn trosglwyddo dirwy o dan erthygl 95 o Orchymyn Llysoedd Ynadon (Gogledd Iwerddon) 198115 neu adran 222 o Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 199516 mewn perthynas â dirwy ynglŷn â thramgwydd perthnasol yn pennu rhanbarth llys ynadon yng Nghymru, bydd yr erthygl hon yn gymwys fel pe bai'r ddirwy wedi'i gosod gan lys o fewn y rhanbarth llys ynadon hwnnw.