Rheoliadau Adnabod Defaid a Geifr (Cymru) 2000

Offerynnau Statudol Cymru

2000 Rhif 2335 (Cy. 152)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Rheoliadau Adnabod Defaid a Geifr (Cymru) 2000

Wedi'u gwneud

30 Awst 2000

Yn dod i rym –

Pob rheoliad ac eithrio rheoliadau 7, 8, 11 a 14

1 Medi 2000

Rheoliadau 7,8, 11 a 14

1 Ionawr 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf Cymunedau Ewrop 1972(2) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 2(2), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adnabod Defaid a Geifr (Cymru) 2000 a deuant i rym –

(a)yn achos pob rheoliad ac eithrio rheoliadau 7, 8, 11 a 14, ar 1 Medi 2000; a

(b)yn achos rheoliadau 7, 8, 11 a 14, ar 1 Ionawr 2001.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

  • ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw person a benodir i fod yn arolygydd at ddibenion y Rheoliadau hyn gan y Cynulliad Cenedlaethol neu awdurdod lleol;

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) mewn perthynas â sir neu fwrdeistref sirol, yw cyngor y sir neu'r fwrdeistref sirol honno;

  • ystyr “canolfan gasglu” (“collection centre”) yw unrhyw safle, gan gynnwys daliadau, lle caiff anifeiliaid sy'n deillio o ddaliadau gwahanol eu grwpio gyda'i gilydd i ffurfio llwythi y bwriedir eu hanfon o'r safle hwnnw;

  • ystyr “ceidwad” (“keeper”) yw unrhyw berson sydd â gofal am ddefaid a geifr a rheolaeth arnynt, hyd yn oed dros dro;

  • ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “daliad” (“holding”) yw unrhyw sefydliad, adeilad neu, yn achos fferm awyr agored, unrhyw le y caiff defaid neu eifr eu dal, eu cadw neu eu trafod;

  • ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw 1 Ionawr 2001;

  • ystyr “marc diadell” (“flockmark”) yw'r marc diadell a ddyrennir gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 3;

  • ystyr “marc gyr” (“herdmark”) yw'r marc gyr a ddyrennir gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 3.

  • ystyr “rhif adnabod unigol unigryw” (“unique individual identification number” ) yw cyfuniad unigryw o'r llythrennau “UK” ac wedyn marc gyr neu farc diadell y daliad geni, ac wedyn rhif adnabod unigol a grewyd gan y ceidwad;

  • ystyr “triniaeth filfeddygol” (“veterinary treatment”) yw unrhyw driniaeth neu weithdrefn arall sy'n cael ei chyflawni gan filfeddyg neu o dan ei oruchwyliaeth ac mae'n cynnwys disbaddu.

(2Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad â rhif (heb gyfeiriad cyfatebol at offeryn penodol) yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn.

(3Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i ddefaid a geifr byw yn unig.

Hysbysu daliadau lle cedwir defaid neu eifr

3.—(1Rhaid i unrhyw berson sy'n cadw defaid neu eifr ar ddaliad, o fewn un mis ar ôl i'r rheoliad hwn ddod i rym, neu yn ôl fel y digwydd, o fewn un mis ar ôl dechrau cadw defaid neu eifr ar ôl i'r rheoliad hwn ddod i rym, hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig am y canlynol —

(a)cyfeiriad y daliad;

(b)enw a chyfeiriad meddiannydd y daliad; ac

(c)rhywogaethau'r anifeiliaid (p'un ai defaid neu eifr neu'r ddau) a gedwir fel arfer ar y daliad.

(2Rhaid i unrhyw berson sy'n cadw defaid neu eifr hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig am unrhyw newid yn y manylion a bennir ym mharagraff (1) uchod o fewn un mis o'r newid hwnnw.

(3Wrth gael hysbysiad o dan y rheoliad hwn bydd y Cynulliad Cenedlaethol, yn ddarostyngedig i baragraff (4) isod, yn dyrannu i geidwad y defaid neu'r geifr farc diadell yn achos defaid neu farc gyr yn achos geifr.

(4Os lladd-dy neu farchnad yw'r daliad, ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn dyrannu marc diadell na marc gyr ond pan fydd yn barnu ei bod yn briodol gwneud hynny.

Cofnodion ynghylch defaid

4.—(1Rhaid i unrhyw berson sy'n cadw defaid neu eifr ar ddaliad (heblaw marchnad, lladd-dy neu ganolfan gasglu) gofnodi ar 31 Ionawr ymhob blwyddyn neu cyn hynny, nifer y fath anifeiliaid a oedd ar y daliad hwnnw ar 1 Ionawr yn y flwyddyn honno.

(2O fewn 36 awr o symud defaid neu eifr i ddaliad neu oddi arno, rhaid i'r ceidwad gofnodi —

(a)dyddiad y symud;

(b)cyfanswm yr anifeiliaid a symudwyd;

(c)un o'r canlynol —

(i)y marc dros dro a roddwyd ar bob anifail o dan reoliad 12(2);

(ii)y marc diadell neu farc gyr (yn ôl fel y digwydd) a ddangosir ar dag clust neu datŵ pob anifail; neu

(iii)y rhif adnabod unigol unigryw a ddangosir (os oes un) ar dag clust neu datŵ pob anifail;

(ch)wrth symud o farchnad, y rhif lot (os oes un) a ddyrannwyd yn y farchnad; a

(d)naill ai —

(i)y daliad y dygwyd yr anifeiliaid ohono, os ydynt yn cael eu symud i'r daliad, neu

(ii)y daliad y symudir yr anifeiliaid iddo os ydynt yn cael eu symud oddi ar y daliad.

(3Yn achos defaid neu eifr a werthir heb gael eu symud i ddaliad neu oddi arno, rhaid i'r gwerthwr gofnodi, o fewn 36 awr o'r gwerthiant —

(a)dyddiad y gwerthiant;

(b)nifer yr anifeiliaid a werthwyd; ac

(c)enw a chyfeiriad y prynwr.

(4Yn achos dafad neu afr a farciwyd yn unol â rheoliad 8 neu a ailfarciwyd yn unol â rheoliad 14(2) neu (3), rhaid i'r ceidwad, o fewn 36 awr o farcio neu ailfarcio'r anifail (yn ôl fel y digwydd), gofnodi'r marc diadell newydd (yn achos defaid) neu farc gyr (yn achos geifr) a'r un blaenorol, os yw hwnnw'n hysbys.

(5Rhaid i bob cofnod o dan y rheoliad hwn gael ei gadw gan y person sy'n gwneud y cofnod am gyfnod o chwe mlynedd.

Cofnodion ychwanegol ar gyfer cynhyrchwyr cig defaid penodedig

5.—(1Yn ychwanegol at y cofnodion sy'n ofynnol o dan y rheoliad blaenorol, rhaid i geidwad sy'n gynhyrchydd cig defaid at ddibenion Rheoliad y Cyngor 3493/90/EEC (sy'n gosod rheolau cyffredinol ynghylch rhoi premiwm i gynhyrchwyr(3) cig defaid a chig geifr) gadw'r cofnodion a bennir yn y rheoliad hwn.

(2Ar 31 Ionawr ymhob blwyddyn neu cyn hynny, rhaid i'r ceidwad gofnodi cyfanswm y defaid benyw a oedd ar y daliad ar 1 Ionawr yn y flwyddyn honno, a oedd naill ai dros 12 mis oed neu wedi bwrw oen, ar y dyddiad y gwnaed y cofnod.

(3O fewn 14 diwrnod o unrhyw un o'r digwyddiadau canlynol —

(a)bod unrhyw ddefaid benyw a oedd naill ai dros 12 mis oed neu a oedd wedi bwrw oen yn cael eu symud yn fwriadol i'r daliad neu oddi arno ;

(b)bod dafad fenyw sydd heb fwrw oen yn cyrraedd 12 mis oed;

(c)bod dafad o dan 12 mis oed yn bwrw oen;

(ch)darganfod bod dafad fenyw a oedd naill ai dros 12 mis oed neu a oedd wedi bwrw oen wedi cael ei cholli o'r daliad, naill ai am ei bod wedi marw neu am ei bod ar grwydr o'r daliad,

rhaid i'r ceidwad gofnodi cyfanswm y defaid benyw ar y daliad sydd wedi bwrw oen neu sydd dros 12 mis oed, dyddiad y cofnod a'r rhesymau y mae cyfanswm y defaid hynny ar y daliad wedi newid.

(4Rhaid i bob cofnod o dan y rheoliad hwn gael ei gadw gan y person sy'n gwneud y cofnod am gyfnod o bedair blynedd.

Tagiau clust a thatŵ s

6.—(1Bydd unrhyw dag clust a gysylltir o dan y Rheoliadau hyn —

(a)naill ai'n fetel neu'n blastig neu'n gyfuniad o fetel a phlastig;

(b)yn un na ellir ymyrryd ag ef;

(c)wedi'i brintio neu wedi'i stampio â'r llythrennau a'r rhif sy'n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn drwy ddull sy'n sicrhau eu bod yn hawdd eu darllen drwy gydol oes yr anifail;

(ch)yn un na ellir ei ailddefnyddio; a

(d)o fath nad yw'n ymyrryd â lles yr anifail.

(2Rhaid peidio â lliwio tag clust a gysylltir o dan y Rheoliadau hyn yn goch oni bai ei fod yn dag clust newydd a gysylltwyd o dan ddarpariaethau rheoliad 14(3)(a).

(3Rhaid cynllunio unrhyw datŵ a roddir o dan y Rheoliadau hyn i fod yn ddarllenadwy drwy gydol oes yr anifail.

Marcio anifeiliaid a anwyd yng Nghymru

7.—(1Yn ddarostyngedig i weddill darpariaethau'r rheoliad hwn, rhaid i geidwad unrhyw ddafad neu afr a enir yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol neu ar ôl hynny, neu sy'n dal i fod ar ei daliad genedigol ar y dyddiad hwnnw, ei marcio cyn gynted â phosibl, a beth bynnag cyn iddi gael ei symud o'i daliad genedigol, â thag clust neu datŵ sy'n cynnwys —

(a)yn achos tag clust, y llythrennau “UK” ac wedyn marc diadell neu farc gyr y daliad genedigol; neu

(b)yn achos tatŵ , marc diadell neu farc gyr y daliad genedigol.

(2Mewn unrhyw achos sy'n ymwneud â symud defaid neu eifr sydd heb eu marcio yn unol â'r rheoliad hwn oddi ar ddaliad, bydd yn amddiffyniad mewn unrhyw achos o dan y rheoliad hwn i'r person sy'n symud yr anifeiliaid brofi bod yr anifeiliaid—

(a)yn achos geifr, wedi'u symud o'r daliad genedigol i safle er mwyn rhoi tatŵ arnynt; neu

(b)yn achos defaid neu eifr (neu'r ddau) wedi'u symud o'r daliad genedigol i safle er mwyn iddynt gael triniaeth filfeddygol; ac

(c)yn y ddau achos, wedi'u dychwelyd i'w daliad genedigol cyn gynted â'u bod wedi cael tatŵ neu driniaeth filfeddygol (yn ôl fel y digwydd).

(3Gall tag clust neu datŵ gynnwys gwybodaeth sy'n ychwanegol at yr hyn sy'n ofynnol o dan y rheoliad hwn.

(4Ni fydd paragraff (1) uchod yn gymwys mewn perthynas â defaid neu eifr a gafodd eu marcio cyn y dyddiad perthnasol â thag clust neu datŵ yn dynodi marc diadell enedigol neu farc gyr genedigol, neu a oedd wedi'u marcio â thag clust yn dwyn marc cymdeithas fridio a gofrestrwyd yn unol â pharagraff (6) isod, ac a oedd ar y daliad genedigol ar y dyddiad perthnasol hwnnw.

(5Am gyfnod o flwyddyn gan ddechrau gyda'r dyddiad perthnasol –

(a)caiff ceidwad farcio anifeiliaid â thag sy'n dwyn marc diadell neu farc gyr y daliad heb y rhagddodiad “UK”;

(b)caiff ceidwad farcio anifeiliaid â thag nad yw'n dwyn y marc diadell neu'r marc gyr ar yr amod bod y tag yn dwyn marc cymdeithas fridio sydd wedi'i gofrestru yn unol â pharagraff (6) isod.

(6Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gadw cofrestr o farciau a roddir gan gymdeithasau bridio a nodi yn y gofrestr honno unrhyw farc y mae cymdeithas fridio yn gwneud cais iddo gael ei gofrestru o dan y paragraff hwn.

Marcio anifeiliaid a fewnforir i Gymru o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd

8.—(1Os mewnforir dafad neu afr i Gymru o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, rhaid iddi gael ei marcio gan geidwad daliad y gyrchfan o fewn 30 diwrnod ar ôl cyrraedd y daliad hwnnw a beth bynnag cyn iddi gael ei symud o'r daliad hwnnw, â thag clust neu datŵ sy'n cynnwys —

(a)yn achos tag clust, y llythrennau “UK” ac wedyn marc diadell neu farc gyr daliad y gyrchfan a'r llythyren “F”; neu

(b)yn achos tatŵ , marc diadell neu farc gyr daliad y gyrchfan a'r llythyren “F”.

(2Ni fydd paragraff (1) uchod yn gymwys os lladd-dy yw'r gyrchfan ar gyfer yr anifail a fewnforir, a bod yr anifail yn cael ei ladd yno o fewn 5 diwrnod heb iddo gael ei symud o'r lladd-dy.

Gofynion marcio ar gyfer anifeiliaid a ddygir i Gymru o Aelod-wladwriaeth arall

9.  Ni chaiff neb fewnforio defaid na geifr o Aelod-wladwriaeth arall onid ydynt wedi'u marcio yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC ar adnabod a chofrestru anifeiliaid(4).

Gofynion marcio ar gyfer anifeiliaid a ddygir i Gymru o ran arall o Ynysoedd Prydain

10.  Ni chaiff neb ddod â dafad na gafr i Gymru o ran arall o Ynysoedd Prydain oni fydd yr anifail wedi'i farcio yn unol â'r ddeddfwriaeth sydd mewn grym yn y rhan honno o Ynysoedd Prydain.

Gofynion marcio ar gyfer symud defaid a geifr i gyrchfan y tu allan i Brydain Fawr

11.—(1Rhaid i unrhyw berson sy'n anfon defaid neu eifr y tu allan i Brydain Fawr sicrhau (neu, yn achos anifail a gafodd ei farcio eisoes â rhif adnabod unigol, fe gaiff sicrhau) bod pob anifail wedi'i farcio adeg ei anfon â thag clust neu datŵ sy'n cynnwys cyfuniad unigryw o'r llythrennau “UK”, marc diadell neu farc gyr y safle sy'n ei anfon, y llythyren “X”, a rhif adnabod unigol.

(2Ni chaiff neb anfon unrhyw ddafad neu afr y tu allan i Brydain Fawr os cafodd ei farcio â thag clust neu datŵ yn diweddu â'r llythyren “R” sy'n dangos mai tag clust neu datŵ yn lle un arall ydyw.

Gofynion marcio ar gyfer symud defaid a geifr i gyrchfan o fewn Prydain Fawr

12.—(1Rhaid i unrhyw berson sy'n symud defaid neu eifr o ddaliad i gyrchfan o fewn Prydain Fawr sicrhau bod yr anifeiliaid wedi'u marcio cyn iddynt gael eu symud o'r daliad yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4) isod, rhaid i bob anifail gael ei farcio â marc dros dro sy'n ddigon amlwg i'r anifail gael ei adnabod at ddibenion y ddogfen sy'n ofynnol o dan reoliad 13 ac a fydd yn para o leiaf nes i'r anifail gyrraedd ei gyrchfan.

(3Yn achos anifail a farciwyd â rhif adnabod unigol unigryw, neu â'r marc diadell neu'r marc gyr, bydd y gofyniad i'w farcio â marc dros dro yn ddewisol, ond os caiff yr anifail ei farcio â marc dros dro, rhaid i'r marc gael ei gofnodi yn y cofnodion symud a wneir o dan reoliad 4 ac yn y ddogfen gludo sy'n cael ei chario o dan reoliad 13.

(4Ni fydd y gofyniad i roi marc dros dro, sy'n cael ei osod o dan baragraff (2) uchod, yn gymwys yn achos anifeiliaid —

(a)sy'n cael eu symud er mwyn cael triniaeth filfeddygol;

(b)sy'n cael eu symud er mwyn eu dipio neu eu cneifio;

(c)sy'n cael eu symud i sioe os ydynt i ddychwelyd i'r un daliad;

(ch)sy'n cael eu symud i ddaliad cyfagos lle mae'r defaid neu'r geifr yn aros o dan yr un berchenogaeth; neu

(d)sydd wrthi'n cael eu mewnforio i Gymru o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd tra bônt yn cael eu cludo i ddaliad y gyrchfan.

Gofynion dogfennol ar gyfer symud defaid a geifr i gyrchfan o fewn Prydain Fawr

13.—(1Rhaid i unrhyw berson sy'n symud defaid neu eifr o ddaliad i gyrchfan ym Mhrydain Fawr sicrhau bod dogfen yn cyd-fynd â'r anifeiliaid, a'r ddogfen honno —

(a)yn enwi'r daliad y mae'r anifeiliaid yn ymadael ag ef a'r daliad y symudir hwy iddo;

(b)yn rhoi dyddiad y symud a chyfanswm yr anifeiliaid a symudir;

(c)yn cofnodi'r marc dros dro a roddir ar bob anifail o dan reoliad 12(2) neu, os nad oes gan yr anifail farc dros dro, rhif adnabod unigol unigryw neu'r marc diadell neu'r marc gyr;

(ch)os yw'r anifeiliaid yn cael eu symud o farchnad, yn cofnodi rhifau lot yr anifeiliaid; a

(d)wedi'i llofnodi gan berchennog yr anifeiliaid neu asiant y perchennog;

a rhaid i'r person sy'n symud yr anifeiliaid sicrhau bod y ddogfen yn cael ei throsglwyddo i feddiannydd daliad y gyrchfan pan fydd yr anifeiliaid yn cyrraedd yno.

(2Ni fydd y gofyniad i gael dogfen i gyd-fynd â'r anifeiliaid a osodir o dan baragraff (1) uchod yn gymwys yn achos —

(a)symud rhwng daliadau lle meddiennir y ddau ddaliad gan yr un person;

(b)symud rhwng daliad ac unrhyw dir y mae hawl i bori ar y cyd â pherchnogion eraill yn arferadwy mewn perthynas ag ef; neu

(c)symud at ddibenion triniaeth filfeddygol, eu dipio neu eu cneifio, neu i sioe os yw'r anifeiliaid i ddychwelyd i'r un daliad, neu yn achos geifr, er mwyn cael tatŵ .

Tynnu ac amnewid tagiau clust

14.—(1Ac eithrio o dan awdurdod un o swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol, ni chaiff neb —

(a)tynnu tag clust a gafodd ei gysylltu wrth anifail yn unol â'r Rheoliadau hyn, nac amnewid tag clust o'r fath, oni bai bod y tag wedi mynd yn annarllenadwy, neu fod rhaid ei dynnu er lles yr anifail, neu ei fod wedi mynd ar goll; neu

(b)tynnu tatŵ a roddwyd ar anifail yn unol â'r Rheoliadau hyn, neu amnewid tatŵ o'r fath, oni bai bod y tatŵ wedi mynd yn annarllenadwy.

(2Wrth amnewid tag clust neu datŵ yn unol â pharagraff (1) uchod, rhaid i'r ceidwad ailfarcio'r anifail â thag clust neu datŵ gyda'r rhif gwreiddiol neu â thag clust neu datŵ sy'n dwyn marc diadell neu farc gyr y daliad lle mae'r anifail yn byw arno, ar yr amod bod y marc adnabod gwreiddiol yn hysbys a bod yna groes-gyfeiriad rhwng y marc adnabod gwreiddiol a'r marc adnabod newydd yn y gofrestr sy'n ofynnol o dan reoliad 4 .

(3Os nad yw'n bosibl ailfarcio'r anifail yn unol â'r paragraff blaenorol, rhaid i'r ceidwad ailfarcio'r anifail â naill ai —

(a)tag clust lliw coch sy'n cynnwys y llythrennau “UK” ac wedyn marc diadell neu farc gyr safle'r daliad lle mae'n cael ei dagio ac wedyn y llythyren “R”; neu

(b)tatŵ sy'n cynnwys marc diadell neu farc gyr safle'r daliad lle mae'n cael ei dagio ac wedyn y llythyren “R”.

(4Ni fydd paragraffau (2) a (3) uchod yn gymwys yn achos anifail mewn marchnad neu ladd-dy.

Tagiau clust a thatŵ s ychwanegol

15.  Ni chaiff neb roi unrhyw dag clust neu datŵ ar ddafad neu afr sy'n dwyn marc diadell neu farc gyr ac eithrio yn unol â darpariaethau'r Rheoliadau hyn.

Newid tagiau clust a thatŵ s

16.  Ni chaiff neb newid, dileu, na difwyno'r wybodaeth ar dag clust neu datŵ a roddir ar anifail o dan y Rheoliadau hyn.

Pwerau arolygwyr

17.—(1O ddangos dogfen sydd wedi'i dilysu'n briodol ac sy'n dangos ei awdurdod os gofynnir iddo wneud hynny, bydd gan arolygydd hawl i fynd ar unrhyw dir neu safle (heblaw safle teuluol nad yw'n cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn) ar unrhyw adeg rhesymol er mwyn darganfod a oes unrhyw un o'r Rheoliadau yn cael ei dorri neu wedi cael ei dorri; ac yn y rheoliad hwn mae “safle” yn cynnwys unrhyw le, gosodiad, cerbyd, llong, cwch, bad, hofranlong neu awyren.

(2Bydd gan arolygydd bŵ er –

(a)i gasglu, corlannu ac archwilio unrhyw ddafad neu afr, a gall ei gwneud yn ofynnol i'r ceidwad drefnu eu casglu, eu corlannu a'u caethiwo;

(b)i archwilio unrhyw gofnodion ar ba ffurf bynnag, a chymryd copïau o'r cofnodion hynny;

(c)i fynd ag unrhyw ddogfennau a chofnodion y mae'n ofynnol eu cadw o dan y Rheoliadau hyn a'u cadw;

(ch)i gael mynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig sy'n cael eu defnyddio neu sydd wedi'u defnyddio mewn cysylltiad ag unrhyw gofnodion o'r fath a grybwyllir yn is-baragraffau (b) ac (c) uchod a'u harchwilio a gwirio eu gweithrediad, a gall ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n gofalu am y cyfrifiadur, y cyfarpar neu'r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â'u gweithredu, roi unrhyw gymorth iddo ef neu iddi hi y gall yn rhesymol ofyn amdano;

(d)i'w gwneud yn ofynnol, pan fydd cofnodion yn cael eu cadw drwy gyfrwng cyfrifiadur, i'r cofnodion hynny gael eu cynhyrchu ar ffurf weladwy a darllenadwy er mwyn mynd â hwy oddi yno.

Tramgwyddau

18.—(1Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un o ofynion y Rheoliadau hyn yn euog o dramgwydd.

(2Os bydd unrhyw berson –

(a)yn rhwystro arolygydd wrth arfer pŵ er a roddwyd i'r arolygydd gan reoliad 17; neu

(b)yn methu heb esgus rhesymol â rhoi i'r cyfryw arolygydd unrhyw gymorth neu wybodaeth y gall yr arolygydd yn rhesymol ofyn iddo neu iddi eu rhoi at ddibenion swyddogaethau'r arolygydd o dan reoliad 17;

bydd y person hwnnw yn euog o dramgwydd.

Cosbau

19.—(1Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (1) o reoliad 18 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na'r uchafswm statudol.

(2Bydd unrhyw berson sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (2) o reoliad 18 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Terfynau amser ar gyfer erlyniadau

20.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), gellir cychwyn achos am dramgwydd o dan reoliad 18 o fewn y cyfnod o chwe mis o'r dyddiad y daw tystiolaeth, sydd ym marn yr erlynydd yn ddigon i gyfiawnhau achos, yn hysbys iddo ef neu iddi hi.

(2Ni chaiff unrhyw achos o'r fath gael ei gychwyn yn rhinwedd y rheoliad hwn fwy na deuddeng mis ar ôl i'r tramgwydd gael ei gyflawni.

(3At ddibenion y rheoliad hwn,

(a)bydd tystysgrif sydd wedi'i llofnodi gan neu ar ran yr erlynydd ac sy'n nodi'r dyddiad y daeth tystiolaeth a oedd yn ddigon ym marn yr erlynydd i gyfiawnhau achos yn dystiolaeth derfynol o'r ffaith honno, a

(b)bydd tystysgrif sy'n datgan hynny ac sy'n ymhonni ei bod wedi'i llofnodi felly wedi'i llofnodi felly oni phrofir y gwrthwyneb.

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol

21.—(1Pan fydd corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, a phan brofir bod y tramgwydd hwnnw wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad un o swyddogion y corff corfforaethol, neu y gellir priodoli'r dramgwydd i unrhyw esgeulustod ar ran y swyddog hwnnw, bydd y swyddog, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r dramgwydd a bydd yn agored i achos yn ei erbyn ac fe'i cosbir yn unol â hynny.

(2At ddibenion paragraff (1), ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei fusnes yn cael ei reoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol hwnnw.

Gorfodi

22.  Ac eithrio lle ceir darpariaeth benodol wahanol, cyflawnir darpariaethau'r Rheoliadau hyn ac fe'u gorfodir gan yr awdurdod lleol (heblaw rheoliad 5, a orfodir gan y Cynulliad Cenedlaethol).

Diwygiad i Reoliadau Premiwm Blynyddol Defaid 1992

23.—(1Diwygir Rheoliadau Premiwm Blynyddol Defaid 1992(5) yn unol â'r paragraffau canlynol.

(2Ym mharagraff (5)(a) o reoliad 5 rhowch “regulation 5 of the Sheep and Goats Identification (Wales) Regulations 2000(6) (“the Identification Regulations”)” yn lle “article 5 of the Sheep and Goats (Records, Identification and Movement) Order 1996 (“the 1996 Order”)”.

(3Rhoddir y rheoliad canlynol yn lle rheoliad 8A –

Failure to comply with the Identification Regulations

8A.  Where at any time during a marketing year a producer fails to comply with regulation 5 of the Identification Regulations, the competent authority may withhold or recover on demand the whole or any part of any premium payable or as the case may be paid to the producer in respect of that marketing year..

Diddymu

24.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, diddymir Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1996(7) i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru.

(2Bydd Erthygl 7 o Orchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1996 yn parhau mewn grym, i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru, tan y dyddiad perthnasol.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(8).

Jane Davidson

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

30 Awst 2000

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gweithredu'r darpariaethau ynghylch defaid a geifr yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC ar adnabod a chofrestru anifeiliaid (OJ Rhif L355, 5.12.92, t.32), yn gwneud darpariaeth ar gyfer cofnodion a dogfennau eraill ynghylch defaid a geifr a marcio defaid a geifr. Maent yn diddymu Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1996, O.S. 1996/28 i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru.

Hysbysu

Mae'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n cadw defaid neu eifr hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) (rheoliad 3).

Cofnodion

Mae'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw un sy'n cadw defaid neu eifr gadw cofnodion ynglŷn â symudiadau ac, yn achos ceidwaid sy'n gynhyrchwyr cig defaid at ddibenion Rheoliad y Cyngor 3493/90/EEC (sy'n gosod rheolau cyffredinol ynghylch rhoi premiwm i gynhyrchwyr cig defaid a chig geifr (O.J. L337, 4.12.90, t.7)) gadw cofnodion ychwanegol yn ymwneud â digwyddiadau penodedig (rheoliadau 4 a 5).

Marcio anifeiliaid

Mae'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth ar gyfer marcio defaid a geifr, naill ai â thag clust neu a thatŵ .Yn ddarostyngedig i eithriadau a darpariaethau trosiannol penodol, o 1 Ionawr 2001 ymlaen, mae'n ofynnol marcio pob anifail a enir neu a symudir gyntaf oddi ar y daliad genedigol ar ôl y dyddiad hwnnw, a'r holl ddefaid a geifr a fewnforir i Gymru o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd (rheoliadau 6 i 8). Mae'r Rheoliadau yn gwahardd dod â defaid neu eifr i Gymru o Aelod-wladwriaeth arall neu o ran arall o'r Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw (“yr Ynysoedd Prydain”) oni bai eu bod wedi'u marcio (rheoliadau 9 ac 10).

Mae'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol marcio defaid a geifr pan anfonir hwy i gyrchfan y tu allan i Brydain Fawr (rheoliad 11) ac i gyrchfan o fewn Prydain Fawr (rheoliad 12). Maent yn darparu hefyd ar gyfer cario dogfennau pan symudir defaid neu eifr o fewn Prydain Fawr (rheoliad 13). Mae'r Rheoliadau yn darparu ar gyfer tynnu tagiau clust a thatŵ s, a rhoi rhai newydd yn eu lle, rhoi tagiau clust a thatŵ s ychwanegol ac maent yn gwahardd newid tagiau clust a thatŵ s (rheoliadau 14 i 16).

Gorfodi a Thramgwyddau

Mae'r Rheoliadau yn darparu ar gyfer pwerau i arolygwyr (rheoliad 17), tramgwyddau (rheoliad 18) a chosbau (rheoliad 19).

Yr Awdurdodau Lleol sy'n gorfodi'r Rheoliadau ar wahân i reoliad 5, a orfodir gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Diwygiadau

Mae'r Rheoliadau yn diwygio Rheoliadau Premiwm Blynyddol Defaid 1992 i ddarparu ar gyfer adennill premiwm oddi wrth gynhyrchwyr sydd wedi torri rheoliad 5 o'r Rheoliadau hyn.

Arfarniad Rheoleiddio

Mae Arfarniad Rheoleiddio wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998. Gellir cael copïau oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Adran Polisi Amaethyddol 3, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(3)

OJ Rhif L337, 4.12.90, t.7.

(4)

OJ Rhif L355, 5.12.92, t.32.