Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol21

1

Pan fydd corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, a phan brofir bod y tramgwydd hwnnw wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad un o swyddogion y corff corfforaethol, neu y gellir priodoli'r dramgwydd i unrhyw esgeulustod ar ran y swyddog hwnnw, bydd y swyddog, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r dramgwydd a bydd yn agored i achos yn ei erbyn ac fe'i cosbir yn unol â hynny.

2

At ddibenion paragraff (1), ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei fusnes yn cael ei reoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol hwnnw.