Tagiau clust a thatŵ s6
1
Bydd unrhyw dag clust a gysylltir o dan y Rheoliadau hyn —
a
naill ai'n fetel neu'n blastig neu'n gyfuniad o fetel a phlastig;
b
yn un na ellir ymyrryd ag ef;
c
wedi'i brintio neu wedi'i stampio â'r llythrennau a'r rhif sy'n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn drwy ddull sy'n sicrhau eu bod yn hawdd eu darllen drwy gydol oes yr anifail;
ch
yn un na ellir ei ailddefnyddio; a
d
o fath nad yw'n ymyrryd â lles yr anifail.
2
Rhaid peidio â lliwio tag clust a gysylltir o dan y Rheoliadau hyn yn goch oni bai ei fod yn dag clust newydd a gysylltwyd o dan ddarpariaethau rheoliad 14(3)(a).
3
Rhaid cynllunio unrhyw datŵ a roddir o dan y Rheoliadau hyn i fod yn ddarllenadwy drwy gydol oes yr anifail.