Search Legislation

Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol 2000 (Cychwyn) (Cymru) 2000

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2000 Rhif 2948 (Cy. 189 ) (C. 86 )

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol 2000 (Cychwyn) (Cymru) 2000

Wedi'i wneud

31 Hydref 2000

Yn dod i rym

1 Tachwedd 2000

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 108(6) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(1).

Enwi a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol 2000 (Cychwyn) (Cymru) 2000.

(2Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Llywodraeth Leol 2000.

Y darpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Tachwedd 2000

2.  Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn dod i rym mewn perthynas â Chymru ar 1 Tachwedd 2000 –

  • adran 3(3), (4), (5), (6) a (7) (terfynau ar bwerau i hybu llesiant)

  • adran 4(3)(b), (4) a (5) (strategaethau i hybu llesiant)

  • adran 5(5) (pŵ er i ddiwygio neu ddiddymu deddfiadau)

  • adran 6(6) (pŵ er i addasu deddfiadau ynghylch cynlluniau etc.)

  • adran 7 (pŵ er i addasu deddfiadau ynghylch cynlluniau etc: Cymru)

  • adran 11(5), (6) a (9) (gweithrediaethau llywodraeth leol)

  • adran 12(1) (mathau ychwanegol o weithrediaeth)

  • adran 13(3), (5), (6), (12), (13) a (14) (swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb gweithrediaeth)

  • adran 17 (cyflawni swyddogaethau: a. 11(5) gweithrediaeth)

  • adran 18 (cyflawni swyddogaethau gan bwyllgorau ardal)

  • adran 19 (cyflawni swyddogaethau awdurdod lleol arall a chan un arall)

  • adran 20 (arfer swyddogaethau ar y cyd)

  • adran 22(6), (7), (8), (9), (10), (11), (12) a (13) (cael gweld gwybodaeth etc.)

  • adran 23 i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraffau 8(4), (5), ac (8), 9(4), (5) a (6), 10 ac 11 o Atodlen 1 (darpariaeth bellach)

  • adran 25(5), (6), a (8) (cynigion)

  • adran 27(9) a (10) (refferendwm yn achos cynigion sy'n ymwneud â maer etholedig)

  • adran 28(1) a (2) (cymeradwyo cynigion wrth gefn amlinellol)

  • adran 30 (defnyddio gwahanol drefniadau gweithredol)

  • adran 31(1)(b) (trefniadau amgen yn achos awdurdodau lleol penodol)

  • adran 32 (trefniadau amgen)

  • adran 33(5), (6), (7), (8), (9), (10) a (11) (defnyddio trefniadau amgen)

  • adran 34 (refferendwm yn dilyn deiseb)

  • adran 35 (refferendwm yn dilyn cyfarwyddyd)

  • adran 36 (refferendwm yn dilyn gorchymyn)

  • adran 37(1)(a) (cyfansoddiad awdurdod lleol)

  • adran 38 (canllawiau)

  • adran 39(1), (3), (4) a (5) (meiri etholedig etc.)

  • adran 41 (amser etholiadau etc.)

  • adran 44 (pwer i wneud darpariaeth ynghylch etholiadau)

  • adran 45(5), (6), (7), (8) a (9) (darpariaethau ynglyn â refferenda)

  • adran 47 (pwer i wneud darpariaeth achlysurol, canlyniadol etc.)

  • adran 48 (dehongli Rhan II)

  • adran 49(2), (5), (6)(a), (b), (f), (l), (m) a (p) a (7) (egwyddorion sy'n llywodraethu ymddygiad aelodau o awdurdodau perthnasol)

  • adran 50(2), (3), (4), (5), (6) a (7) (cod ymddygiad enghreifftiol)

  • adran 53(11) a (12) (pwyllgorau safonau)

  • adran 54(5) a (7) (swyddogaethau pwyllgorau safonau)

  • adran 68(3), (4) a (5) (Comisynydd Lleol a'r Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru)

  • adran 70(1) a (2) (ymchwiliadau: darpariaethau pellach)

  • adran 73(1), (2), (3), (4), (5) a (6) (materion a gyfeirir at swyddogion monitro)

  • adran 75(2), (5), (6) a (8) (panelau dyfarnu)

  • adran 76(13) (tribiwnlysoedd achosion a thribiwnlysoedd achosion interim)

  • adran 77(4) a (6) (dyfarniadau)

  • adran 81(5) a (8) (datgelu a chofrestr buddiannau aelodau etc.)

  • adran 82(2), (3), (6), (8) a (9) (cod ymddygiad ar gyfer gweithwyr llywodraeth leol)

  • adran 83(1), (2), (3), (5), (6), (7), (8), (9), (10), (11), (13) a (14) (dehongli Rhan III)

  • adran 100 (pŵ er i wneud darpariaeth ynghylch lwfansau)

  • adran 101(2), (3), (4) a (5) (indemnio aelodau a swyddogion awdurdodau perthnasol)

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2).

D Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

31 Hydref 2000

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r gorchymyn hwn yn dod â darpariaethau penodol yn Neddf Llywodraeth Leol 2000 (“y Ddeddf”) i rym mewn perthynas â Chymru ar 1 Tachwedd 2000. Mae'r darpariaethau hynny yn rhoi pwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac, mewn un achos (adran 44), i'r Ysgrifennydd Gwladol.

Mae'r darpariaethau'n ymwneud â gwaith yr awdurdodau lleol i hybu llesiant economaidd, cymdeithasol neu amgylcheddol eu hardaloedd, trefniadau awdurdod lleol ar gyfer creu a gweithredu gweithrediaeth i'r awdurdod hwnnw ac ymddygiad aelodau a gweithwyr cyflogedig awdurdodau lleol.

Mae adran 108(6) o'r Ddeddf yn rhoi pŵ er i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddod â'r darpariaethau hyn i rym mewn perthynas â Chymru cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy'n dechrau ar y diwrnod y pasiwyd y Ddeddf sef yr amser a benodwyd gan adran 108(4) o'r Ddeddf. Pasiwyd y Ddeddf ar 28 Gorffennaf 2000.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources