(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Adran 15(1) o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1990 (fel y'i diwygiwyd gan Adran 142 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996) yn darparu bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cael gwneud, neu drefnu gwneud, grantiau tuag at gost gwaith neu gyngor i wella inswleiddiad thermol neu i leihau neu atal gwastraff ynni fel arall mewn anheddau.

Mae pŵ er yr Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adran hon yn arferadwy bellach gan y Cynulliad mewn perthynas â Chymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999.

Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi'r cynlluniau ar gyfer darparu grantiau at y dibenion a nodir yn Adran 15(1) o Ddeddf 1990 (fel y'i diwygiwyd) . Mae'r Rheoliadau yn ymdrin â phwy sy'n gymwys i gael grant, gallu'r Cynulliad i benderfynu ar gategorïau gweithfeydd ac uchafswm y lefelau grantiau sydd ar gael, at ba ddibenion y gellir cymeradwyo grantiau a dull gwneud cais am grant.

DS Darparodd Rheoliadau'r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Diwygio) (Cymru) 2000 (“Rheoliadau (Diwygio) 2000”) uchafsymiau newydd ar gyfer dyfarnu grant o dan y Cynllun blaenorol, a nodwyd yn Rheoliadau'r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref 1997 (“Rheoliadau 1997”). Mae Rheoliadau 1997 a Rheoliadau (Diwygio) 2000 wedi'u diddymu fel y nodir yn y Rheoliadau hyn.