Gorchymyn Deddf Iechyd 1999(Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2000

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â darpariaethau pellach Deddf Iechyd 1999 i rym mewn perthynas â Chymru.

Mae'r Gorchymyn yn darparu ar gyfer cychwyn darpariaethau sy'n darparu ar gyfer partneriaeth rhwng cyrff NHS ac Awdurdodau Lleol gan gynnwys taliadau rhwng cyrff NHS ac Awdurdodau Lleol a'r trefniadau rhyngddynt. Mae darpariaeth hefyd ar gyfer cychwyn diddymiadau sy'n ymwneud â Chyd-bwyllgorau Ymgynghorol a Deddf Cyd-bwyllgorau Ymgynghorol y Gwasanaeth Iechyd (Cael Gweld Gwybodaeth) 1986.