Rôl y corff llywodraethu5
1
Rhaid i'r corff llywodraethu arfer eu swyddogaethau gyda golwg ar gyflawni rôl strategol yn fras yng ngwaith rheoli'r ysgol.
2
Rhaid i'r corff llywodraethu sefydlu fframwaith strategol i'r ysgol —
a
drwy bennu nodau ac amcanion i'r ysgol;
b
drwy bennu polisïau i'r ysgol ar gyfer cyrraedd y nodau a'r amcanion;
c
drwy osod targedau ar gyfer cyrraedd y nodau a'r amcanion.
3
Rhaid i'r corff llywodraethu fonitro a gwerthuso cynnydd yn yr ysgol o ran cyrraedd y nodau a'r amcanion a bennwyd a rhaid iddynt adolygu'n rheolaidd y fframwaith strategol ar gyfer yr ysgol yng ngoleuni'r cynnydd hwnnw.
4
Wrth arfer y swyddogaethau ym mharagraffau (2) a (3) uchod, rhaid i'r corff llywodraethu—
a
ystyried unrhyw gyngor a roddir gan y pennaeth o dan reoliad 6(2) isod, a
b
(yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth statudol arall) gydymffurfio ag unrhyw weithred ymddiriedolaeth sy'n berthnasol i'r ysgol.
5
Rhaid i'r corff llywodraethu weithredu fel “cyfaill beirniadol” i'r pennaeth, hynny yw, rhaid iddynt gefnogi'r pennaeth wrth iddo gyflawni swyddogaethau'r swydd a rhoi beirniadaeth adeiladol i'r pennaeth pan fydd angen.