xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2000 Rhif 350 (Cy. 8)

IECHYD PLANHIGION, CYMRU

Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft (Diwygio) (Cymru) 2000

Wedi'u gwneud

8 Chwefror 2000

Yn dod i rym

9 Chwefror 2000

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sydd wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf Cymunedau Ewrop 1972(2) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 2(2) yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.    Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft (Diwygio) (Cymru) 2000, byddant yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 9 Chwefror 2000.

Diwygio Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft 1998

2.—(1)   Diwygir Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft 1998(3) lle bônt yn gymwys i Gymru yn unol â pharagraffau (2) a (3) isod.

(2 Yn rheoliad 2 (dehongli) –

(a) yn lle'r diffiniad o “the Decision” rhodder –

“the Decision” means Commission Decision 96/301/EC authorising member States temporarily to take additional measures against the dissemination of Pseudomonas solanacearum (Smith) Smith as regards Egypt(4) as amended by Commission Decision 98/105/EC authorising member States temporarily to take emergency measures against the dissemination of Pseudomonas solanacearum (Smith) Smith as regards Egypt(5), Commission Decision 98/503/EC authorising member States temporarily to take emergency measures against the dissemination of Pseudomonas solanacearum (Smith) Smith as regards Egypt(6) and Commission Decision 99/842/EC authorising member States temporarily to take emergency measures against the dissemination of Pseudomonas solanacearum as regards Egypt(7);; a

(b)yn y diffiniad o “the Minister”, rhodder “the National Assembly for Wales” yn lle “the Secretary of State for Wales”.

3.   Yn rheoliad 3(2) (mewnforion tatws sy'n deillio o'r Aifft) a rheoliad 5A(1) (taliadau a godir am samplu mewnforion tatws), rhodder “Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al.”(8) yn lle'r geiriau “Pseudomonas solanacearum (Smith) Smith”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(9).

Dafydd Elis Thomas

Y Llywydd

8 Chwefror 2000

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn rhoi Penderfyniad y Comisiwn 99/842/EC ar waith, gan ddiwygio Penderfyniad 96/301/EC sy'n awdurdodi dros dro yr Aelod-wladwriaethau i gymryd camau brys yn erbyn lledaenu Pseudomonas solanacearum (Smith) Smith o ran yr Aifft (OJ Rhif L326, 18.12.99, t.68) drwy ddiwygio'r diffiniad o “the Decision” yn Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft (Diwygio) (Cymru) 1998 (“Rheoliadau 1998”) (rheoliad 2(2)). Mae Penderfyniad 99/842/EC yn gwneud mân newidiadau i'r gofynion sy'n gymwys i datws sy'n cael eu mewnforio i'r Aelod-wladwriaethau o'r Aifft.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd:

(a)yn breinio swyddogaethau “the Minister” o dan Reoliadau 1998 yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, i'r graddau y mae'r swyddogaethau hynny yn arferadwy mewn perthynas â Chymru (rheoliad 2(2)(b)); a

(b)yn rhoi'r term “Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al.” yn lle'r cyfeiriadau at “Pseudomonas solanacearum (Smith) Smith” yn Rheoliadau 1998 (rheoliad 2(3)).

(3)

O.S. 1998/201, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/3167.

(4)

O.J. Rhif L115, 9.5.96, t.47.

(5)

O.J. Rhif L25, 31.1.98, t.101.

(6)

O.J. Rhif L225, 12.8.98, t.34.

(7)

O.J. Rhif L326, 18.12.99, t.68.

(8)

Adwaenwyd Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al gynt fel Pseudomonas solanacearum (Smith) Smith.