ATODLENDIBENION Y MAE GRANTIAU'N DALADWY ATYNT NEU'N GYSYLLTIEDIG Å HWY
22
Gwella safleoedd ysgolion, gan gynnwys –
a
darparu offer gwylio a gwarchod;
b
gwella, adnewyddu neu amnewid adeiladau, dodrefn a chyfarpar (ar wahan i gyfarpar technoleg gwybodaeth a chyfathrebu) a ddefnyddir at ddibenion addysgol;
c
darparu a gosod ceblau ar gyfer cyfarpar technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, fel rhan o wella, adnewyddu neu amnewid o'r fath (ond nid darparu a gosod y cyfarpar ei hun); a
ch
darparu a gosod cyfarpar (gan gynnwys cyfarpar technoleg gwybodaeth a chyfathrebu) i wella addysgu a dysgu cynllunio a thechnoleg yng nghyfnodau allweddol 3 a 4 ac uwchlaw hynny, yn enwedig mewn perthynas â thechnoleg rheoli ac â chynllunio a gwneuthur nwyddau drwy gymorth technoleg a chyfarpar gwybodaeth a chyfathrebu.