2000 Rhif 974 (Cy. 44 )

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Coleg Pencoed (Diddymu) 2000

Wedi'i wneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) wedi cael cynnig gan Gyngor Cyllido Addysg Bellach Cymru, wedi'i wneud yn unol ag adran 51 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 19921 (“y Ddeddf”), i ddiddymu'r gorfforaeth addysg bellach a adwaenir fel Coleg Pencoed2 (“y Trosglwyddwr”) o dan adran 27 o'r Ddeddf;

Drwy arfer y pŵ er a roddwyd i'r Ysgrifenydd Gwladol gan adran 27 o'r Ddeddf ac a freiniwyd bellach yn y Cynulliad Cenedlaethol3, mae'r Cynulliad Cenedlaethol, wedi ymgynghori â'r Trosglwyddwr, a chyda chydsyniad y gorfforaeth addysg bellach a adwaenir fel Coleg Technoleg Pen-y-bont ar Ogwr4 (“y Trosglwyddai”) yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Coleg Pencoed (Diddymu) 2000 a daw i rym ar 1 Ebrill 2000.

2

Ar 1 Ebrill 2000 diddymir y Trosglwyddwr a throsglwyddir ei holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau i'r Trosglwyddai, sydd yn gorfforaeth gorfforedig a sefydlwyd at ddibenion sy'n cynnwys darparu cyfleusterau neu wasanaethau addysg.

3

Bydd adran 26(2), (3) a (4) o'r Ddeddf yn gymwys i unrhyw berson a gyflogid gan y Trosglwyddwr yn union cyn 1 Ebrill 2000 fel petai'r cyfeiriadau yn yr adran honno —

a

at berson y mae'r adran honno'n gymwys iddo yn gyfeiriad at berson a gyflogid felly;

b

at y dyddiad gweithredol yn gyfeiriad at 1 Ebrill 2000;

c

at y trosglwyddwr yn gyfeiriad at y Trosglwyddwr; ac

ch

at y gorfforaeth yn gyfeiriad at y Trosglwyddai.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru

T MiddlehurstYsgrifennydd Addysg a Hyfforddiant Ôl-16, y Cynulliad

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diddymu'r gorfforaeth addysg bellach a sefydlwyd i redeg Coleg Pencoed. Mae'n darparu ar gyfer trosglwyddo ei heiddo, ei hawliau a'i rhwymedigaethau i Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Technoleg Pen-y-bont ar Ogwr, ac mae'n sicrhau hawliau ei gweithwyr trwy gymhwyso adran 26(2) i (4) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.