Amddiffyn swyddogion10

Ni fydd swyddog na pherson sy'n ei gynorthwyo yn rhinwedd erthygl 6(2) neu 7(1)(b) o'r Gorchymyn hwn yn agored i unrhyw achosion sifil neu droseddol am unrhyw beth a wneir drwy arfer honedig o'r pwerau a roddir iddo neu iddi yn rhinwedd erthyglau 6 i 9 o'r Gorchymyn hwn os yw'r llys wedi'i fodloni fod y weithred wedi'i gwneud yn ddidwyll, bod sail resymol dros ei gwneud a'i bod wedi'i gwneud gyda medr a gofal rhesymol.