11. Bydd unrhyw berson sydd–
(a)heb esgus rhesymol yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig o dan y pwerau a roddir i swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig gan erthyglau 6, 7 neu 8 o'r Gorchymyn hwn;
(b)heb esgus rhesymol yn rhwystro, neu yn ceisio rhwystro, unrhyw berson arall rhag cydymffurfio â gofyniad o'r fath; neu
(c)yn ymosod ar swyddog sydd wrthi'n arfer unrhyw un o'r pwerau a roddir iddo neu iddi gan erthyglau 6 i 9 o'r Gorchymyn hwn neu sydd yn fwriadol yn rhwystro swyddog o'r fath wrth iddo arfer unrhyw un o'r pwerau hynny,
yn euog o dramgwydd ac yn agored–
(i)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na'r uchafswm statudol; neu
(ii)o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy.