(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaethau trosiannol mewn perthynas â diddymu, drwy adran 1 o Ddeddf Iechyd 1999, system ddeiliad-cronfa gan Ymarferydd Cyffredinol yng Nghymru, fel y'u sefydlwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990.

Yn benodol, mae'r Gorchymyn yn darparu ar gyfer trosglwyddo asedau, hawliau a rhwymedigaethau mewn perthynas â deiliad-cronfa i'r Awdurdod Iechyd perthnasol o bractis deiliad-cronfa blaenorol (erthyglau 2 a 3) ac ar gyfer defnydd yr Awdurdod Iechyd o'r asedau hynny drwy fod yn atebol am y rhwymedigaethau a drosglwyddir iddo a'r rheini a gedwir gan y cyn-aelodau o bractisiau deiliad-cronfa (erthyglau 4 a 6).

Pan fydd asedau yn dal yno ar ôl i holl rwymedigaethau'r practis deiliad-cronfa blaenorol gael eu cyflawni, mae'r balans i'w ddosrannu, lle mae cyn-aelodau o bractis mewn ardal Awdurdod Iechyd heblaw'r Awdurdod Iechyd perthnasol, rhwng yr Awdurdodau Iechyd hynny (erthygl 7), a beth bynnag mae i'w gymhwyso gan yr Awdurdod Iechyd at y dibenion a bennwyd yn unol â dymuniadau cyn-aelodau'r practis (erthygl 8).

Yn ychwanegol, yn Rhannau V a VI, gwneir darpariaeth fel bod y rhwymedigaethau ynglŷn â chyfrifo, er gwaethaf diddymu deiliad-cronfa, yn dal yn gymwys hyd nes bod cyfrifon terfynol wedi cael eu harchwilio a'u cyflwyno. Gellir o hyd archwilio i gŵynion mewn perthynas â chynnal practis deiliad-cronfa. Gellir datrys y materion sydd dros ben ynglŷn â defnyddio'r arbedion o ddeiliad-cronfa a gellir adennill symiau dynodedig a gamddefnyddiwyd, ar 1 Ebrill 2000 neu cyn hynny.