xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 1153 (Cy.60)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Caerdydd a'r Fro) (Cyfalaf Cychwynnol) (Cymru) 2001

Wedi'i wneud

19 Mawrth 2001

Yn dod i rym

31 Mawrth 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan adran 9(1) ac (8) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990(1) a phob pwer arall sy'n galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol yn y cyswllt hwnnw, ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), gyda chydsyniad y Trysorlys(3), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Caerdydd a'r Fro) (Cyfalaf Cychwynnol) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 31 Mawrth 2001.

(2Bydd y Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

Cyfalaf Cychwynnol Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol

2.  Cyfalaf cychwynnol Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Caerdydd a'r Fro fydd Cant naw deg pedwar miliwng, cant pedwar deg dau o filoedd o bunnoedd (£194,142,000).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)

D. Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Mawrth 2001

Cydsyniwn,

Greg Pope

Jim Dowd

Dau o Arglwydd Gomisiynwyr Trysorlys Ei Mawrhydi

19 Mawrth 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Gorchymyn hwn yn penderfynu swm cyfalaf cychwynnol Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Caerdydd a'r Fro a sefydlwyd o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990, sef cyfalaf cychwynnol y darperir ar ei gyfer yn adran 9 o'r Ddeddf honno.

(1)

1990 p.19. Diwygiwyd adran 9(1) gan adran 15 o Ddeddf Iechyd 1999 (p.8.)

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 9(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (“Deddf 1990”) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672) (“y Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau”).

(3)

Gweler adran 9(8) o Ddeddf 1990. Mae'r cydsyniad y mae ei angen oddi wrth y Trysorlys wedi'i gadw yn unswydd gan Atodlen 1 i'r Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau.